Category Archives: Uncategorized @cy

Digwyddiad Llesiant Hubberston a Hakin: Meithrin Cysylltiadau a Chymorth

Yn ddiweddar cynhaliodd ateb, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Ddigwyddiad Llesiant yng nghymuned Hubberston a Hakin. Bwriad y digwyddiad oedd cysylltu preswylwyr ag ystod o asiantaethau cymorth, ac roedd arweiniad ar gael ynghylch popeth o iechyd i gyngor am arbed ynni a chyngor am yrfaoedd. Diben y cyfan oedd ceisio helpu pobl i ymdopi […]

Canlyniadau Cystadleuaeth Arddio 2024

Fis diwethaf, bu Grŵp ateb yn dathlu enillwyr Cystadleuaeth Arddio 2024. Daeth ein cwsmeriaid ynghyd yn Oriel VC, Pennar i gwrdd â phobl eraill sy’n hoffi garddio ac i rannu straeon am eu hanturiaethau yn yr ardd hyd yn hyn. Cafwyd sgyrsiau bywiog wrth fwynhau’r wledd o frechdanau a chacennau a ddarparwyd gan staff Oriel […]

Wythnos Mynd Ar-lein – Grymuso cynhwysiant digidol a mwynhau pethau melys!

Yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu Wythnos Mynd Ar-lein—a oedd yn gyfle gwych i’n cwsmeriaid ddysgu sgiliau TG newydd a chymryd camau tuag at fod yn hyderus gyda thechnoleg ddigidol. Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, fu’n arwain yr ymgyrch ar ran ateb a chyflwynodd Daith Her y Cacennau Bach i gyd-fynd â’r fenter er mwyn […]

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

Yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, rydym yn falch o dynnu sylw at ein hymroddiad parhaus i sicrhau bod Grŵp ateb yn amgylchedd diogel, cynhwysol a chroesawgar i bawb. Eleni, rydym unwaith eto wedi dangos ein hymrwymiad drwy gyfrwng cyfres o sesiynau hyfforddiant effeithiol a oedd yn canolbwyntio ar Niwroamrywiaeth, Aflonyddu Rhywiol […]

Ddweud eich dweud – Fforwm Cwsmeriaid

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 24 Hydref, 2024, am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn […]

Digwyddiad Lles Cymunedol gyda Chyngor Sir Benfro ac ateb

Rhaid bod pob plentyn sydd dan 14 oed yng nghwmni oedolyn Canolfan Cymunedol Hubberston & Hakin SA73 3PL Dydd Iau 31 Hydref 12yh – 3yh Yn cynnwys 2 Weithdy Coginio’n Iach Heb Orwario sy’n addas i unigolion, teuluoedd, pobl ifanc/hŷn… Caiff yr holl gynhwysion eu darparu am ddim, a chewch fynd â’ch bwyd adref gyda […]

Ydych chi wedi darllen ein diweddariad ail chwarterol – “ateb Stories”?

Bob chwarter, rydym ni a chymdeithasau tai eraill yn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru i ddangos sut y mae ein perfformiad ni’n cymharu ag eraill. Pan gaiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi, byddwn yn ei rhannu â chi ac yn myfyrio ynghylch beth y mae’n ei olygu. Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau a straeon gan […]