Mae anwedd yn digwydd pan fydd aer llaith a chynnes yn cwrdd ag arwyneb oer.
Mae lleithder yn yr aer bob amser, ond gall gormod o anwedd achosi llwydni ar waliau, ffenestri, dodrefn a defnyddiau a chynyddu presenoldeb gwiddon llwch. Gall presenoldeb llwydni a gwiddon llwch waethygu anhwylderau anadlu sydd gan rywun yn barod, er enghraifft asthma a broncitis. Bydd darparu’r system awyru gywir a sicrhau’r tymheredd cywir yn eich cartref yn helpu i atal anwedd a llwydni.
Gweler ein taflen Rheoli Anwedd a Llwydni yn eich Cartref i gael gwybod mwy am sut i atal a thrin anwedd a llwydni yn eich cartref.