Cynllun ar gyfer y Lluoedd Arfog

 Bwriad ein cynllun ar gyfer milwyr o’r lluoedd arfog (sy’n dychwelyd) yw darparu cartrefi fforddiadwy i’r milwyr hynny y mae angen help arnynt i ddod o hyd i gartref i’w rentu.

Sut y gallaf wneud cais?

  • Cofrestrwch gyda CartrefiDewisedig@SirBenfro i gael cartref
  • Llenwch y ffurflen gais arbennig ar gyfer milwyr o’r lluoedd arfog, sydd ar gael gan ateb

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd eich cais yn cael ei wirio i weld a ydych yn gymwys i gael help dan y cynllun hwn, a byddwn yn gofyn am gopi o’ch papurau rhyddhau neu am wybodaeth berthnasol arall ynglŷn â’ch gwasanaeth yn y lluoedd arfog. Byddwn yn cysylltu â chi wedyn.

Beth y gallwch ei gynnig i fi?

Mae ateb yn darparu cartrefi i oddeutu 3,200 o aelwydydd yn Sir Benfro. Mae’r rhan fwyaf o’n cartrefi wedi cael eu hadeiladu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Mae ganddynt geginau ac ystafelloedd ymolchi modern a gwres canolog ym mhob ystafell, ac maent ar ystadau bach o dai.

Mae ein rhenti’n fforddiadwy, o’u cymharu â chartrefi yn y sector rhentu preifat. Os yw eich incwm yn isel, gallech fod yn gymwys i gael help drwy Gredyd Cynhwysol a help gyda’ch Treth Gyngor. Gall ein tîm o Gydlynwyr Tai roi cyngor i chi a’ch helpu gydag unrhyw geisiadau.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i fi gael cartref?

Mae hynny’n dibynnu ar ba fath o gartref yr ydych am ei gael a ble’r ydych am fyw. Yn gyffredinol, bydd gennych fwy o gyfle i gael cartref os hoffech fyw mewn ardal lle mae gennym lawer o gartrefi. 

Mae’n swnio’n rhy dda i fod yn wir – beth yw’r anfantais?

Bob blwyddyn, rydym yn darparu cartrefi i hyd at 5 o filwyr sy’n dychwelyd o’r lluoedd arfog ac sy’n gwneud cais am gartref.

Fodd bynnag, bob blwyddyn bydd ateb hefyd yn helpu tua 250 o aelwydydd eraill i gael cartrefi newydd yn Sir Benfro, drwy CartrefiDewisedig@SirBenfro.

Canllaw cyflym – ydych chi’n gymwys i fod yn rhan o’r cynllun?

A yw pob un o’r datganiadau canlynol yn wir amdanoch chi?

Rwy’n gadael y lluoedd arfog, neu rwyf wedi gadael y lluoedd arfog yn ystod y 12 mis diwethaf

Gallaf ddarparu copi o fy mhapurau rhyddhau/dogfennau perthnasol eraill

Mae gen i gysylltiad â Sir Benfro a gallaf brofi hynny.

Er enghraifft, rydych wedi bod yn gwasanaethu yn Sir Benfro neu hoffech ddychwelyd i Sir Benfro ar ôl bod yn gwasanaethu eich gwlad mewn lleoliad arall.

Os yw’r holl ddatganiadau uchod yn berthnasol i chi, cwblhewch ein ffurflen gais am wasanaeth

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →