Caiff ein cartrefi eu hadeiladu’n unol â Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru a Diogelu drwy Ddylunio – sydd i gyd yn rhan o Gartrefi Gydol Oes.
Datblygiadau cyfredol:-
Sŵn y Môr, Tyddewi – Ardal 3
Bydd Sŵn y Môr, Tyddewi yn cynnwys 38 o gartrefi fforddiadwy newydd i’w rhentu. Mae’r datblygiad wedi’i enwi ar ôl un o fadau achub Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, a oedd wedi’i leoli yn y ddinas ac a fu’n gwasanaethu’r ardal rhwng 1936 a 1963 gan achub 108 o fywydau. Disgwylir i’r cartrefi hyn fod ar gael yn ystod haf 2021. Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o’r gymuned leol, y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu gosod am y tro cyntaf. Mae’r cynllun hwn y bwriedir iddo osod tai i bobl leol yn gwireddu’r addewid hwnnw, drwy roi blaenoriaeth i’r sawl sy’n byw yn Nhyddewi a Chlos y Gadeirlan, Solfach a Phlwyf Llanrhian. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio gyda’r gymuned leol wrth gynllunio ein datblygiadau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cartrefi hyn yn cael eu gosod.
- 16 fflat ag 1 ystafell wely i 2 berson
- 10 tŷ pâr â 2 ystafell wely i 4 person
- 10 tŷ pâr â 3 ystafell wely i 4 person
- 2 fyngalo pâr â 2 ystafell wely i 3 pherson
Maes-y-bryn, Llandysilio Ardal 3
Mae 6 o gartrefi newydd i’w rhentu yn cael eu hadeiladu gan Gawnen Construction. Mae’r cwmni wedi gweithio gyda ni o’r blaen – cwblhaodd ddatblygiad i ni’n ddiweddar yn Sandyke Road, Aberllydan. Disgwylir i’r cartrefi newydd fod ar gael yn ystod gwanwyn 2022 a dyma fideo o waith y cwmni.
- 4 fflat ag 1 ystafell wely i 2 berson
- 2 tŷ pâr â 2 ystafell wely i 4 person
Llys Enfys, The Rope Walk, Aberdaugleddau Ardal 4
Mae’r enfys wedi bod yn symbol o obaith yn ystod y cyfnod rhyfedd diweddar oherwydd Covid, ac mae’r gair wedi’i ddewis yn rhan o enw’r fflatiau newydd sy’n cael eu hadeiladu ac a fydd yn trawsnewid y safle yn y Rope Walk. Bydd y fflatiau fforddiadwy hyn ar gael i’w rhentu ddechrau 2022.
- 6 fflat ag 1 ystafell wely i 2 berson
Isambard Gardens, Neyland Ardal 4
Ar ôl cwblhau’r datblygiad yn Three Meadows yn ddiweddar, mae Hale Construction yn adeiladu 33 o gartrefi newydd ar safle’r hen ysgol yn Neyland. Rydym yn rhagweld y bydd y cartrefi hyn ar gael i’w rhentu yn ystod haf 2022.
- 2 tŷ pâr â 4 ystafell wely i 6 pherson
- 4 tŷ pâr â 3 ystafell wely i 4 person
- 16 tŷ pâr â 2 ystafell wely i 4 person
- 3 fyngalo pâr â 2 ystafell wely i 3 pherson
- 8 fflat ag 1 ystafell wely i 2 berson
Stover Avenue, Sageston – Ardal 2
Rydym wrthi’n adeiladu 40 o gartrefi newydd yn Stover Avenue, Sageston gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa Grant Tai Cymdeithasol a’r rhaglen Tai Arloesol. Bydd y cartrefi hyn yn cael eu gwresogi gan bympiau gwres o’r aer er mwyn helpu i gyrraedd y targedau byd-eang sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd. Dangosodd yr astudiaeth ecoleg, a gynhaliwyd cyn y gallai unrhyw waith adeiladu ddechrau, fod angen i ni adeiladu byngalo ystlumod fel bod lle i fyw gan unrhyw fywyd gwyllt a fyddai’n cael ei ddadleoli. Rydym yn disgwyl y bydd y cartrefi newydd hyn ar gael i’w rhentu yn ystod gwanwyn 2023.
- 10 fflat ag 1 ystafell wely i 2 berson
- 5 fyngalo pâr â 1 ystafell wely i 2 pherson
- 2 fyngalo pâr â 2 ystafell wely i 3 pherson
- 20 tŷ pâr â 2 ystafell wely i 4 person
- 2 tŷ pâr â 3 ystafell wely i 5 person
- 1 fyngalo pâr â 3 ystafell wely i 5 pherson
Ymgyngoriadau cyn ymgeisio
Cliciwch yma i weld ein hymgyngoriadau cyfredol cyn ymgeisio.