Yn ateb, rydym o’r farn bod pawb yn haeddu cael cartref cyffyrddus a chynnes sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ansawdd ein cartrefi a gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mewn 122 o gartrefi ateb er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn fwy caredig i’r amgylchedd, a hynny drwy sicrhau cyllid grant gan Lywodraeth Cymru a Phrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rydym yn gwybod o’r adborth a gawsom gan gwsmeriaid ateb bod ein buddsoddiad wedi gwneud gwahaniaeth mawr er gwell iddynt.
“Roeddem yn hapus dros ben pan gawsom wybod y byddem yn eu cael nhw (paneli solar). Roeddem wedi clywed sïon ac roeddem wir yn gobeithio y byddai’n digwydd. Mae wedi bod yn wych…….Yn ystod mis Ebrill, roedd ein biliau ynni wedi gostwng i geiniog y dydd – ac i 50c yn unig ar ambell ddiwrnod gwlyb. Mae’n wahaniaeth enfawr. Dywedodd un o’n cymdogion mai dim ond ychydig dros £1 oedd ei fil e’.”
Deiliad contract – Stone Court
“Ymhlith y manteision rwyf wedi sylwi arnynt y mae’r ffaith nad oes drafft yn dod drwy’r ffenestri mwyach a bod y gwres canolog yn fwy effeithiol o lawer. Mae fy ystafell fyw’n gynnes braf ac mae gweddill y tŷ yn gyffyrddus hefyd. Yn gyffredinol, mae tu mewn y tŷ’n gynhesach o lawer.”
Deiliad contract – Preseli Court
Yn ystod y tair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £37 miliwn mewn gwelliannau i gartrefi ateb. Bydd cyfran sylweddol o’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â chyflawni ein hymrwymiad i wella effeithlonrwydd ein cartrefi o ran ynni ac i gynorthwyo ein cymunedau drwy atebion cynaliadwy. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn wedi’i alluogi drwy sicrhau benthyciad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, a thrwy gyllid grant pellach gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y 12 mis nesaf yn unig, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.9 miliwn er mwyn sicrhau bod 170 o gartrefi ateb yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a hynny drwy osod paneli solar â chyfleusterau storio ynni mewn batris yn ogystal â chyflwyno mesurau eraill.
Meddai Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid:
“Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi ein cynlluniau i wella effeithlonrwydd cartrefi ateb o ran ynni yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd sicrhau’r benthyciad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chyllid grant, yn ein galluogi i wella effeithlonrwydd nifer fawr o gartrefi ateb o ran ynni, a fydd o fantais i’r sawl sy’n byw yn ein cartrefi ac i’r amgylchedd hefyd.”