Cyfnewid Fy Nghartref

Ydych chi’n ystyried cyfnewid eich cartref?

Trefniant cydgyfnewid yw pan fydd dau denant yn cytuno i gyfnewid cartrefi – a chontractau – â’i gilydd. Gall fod yn ffordd wych o ddod o hyd i le newydd sy’n fwy addas i’ch anghenion. Ond cyn i chi fwrw ati, mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai pethau.

A allaf i gyfnewid fy nghartref?

I fod yn gymwys ar gyfer trefniant cydgyfnewid:

  • Rhaid bod gennych gontract diogel, contract sicr neu gontract tymor penodol – ni allwch gyfnewid eich cartref os oes gennych gontract rhagarweiniol neu gontract ymddygiad gwaharddedig.
  • Rhaid nad oes gennych ôl-ddyledion rhent – rhaid eich bod wedi talu’r holl rent sy’n ddyledus.
  • Rhaid nad oes gennych unrhyw daliadau a ailgodir sy’n ddyledus ac nad oes gennych unrhyw dasgau atgyweirio heb eu cyflawni yr ydych chi fel cwsmer yn gyfrifol amdanynt.
  • Rhaid i chi sicrhau bod eich cartref mewn cyflwr da ac yn hygyrch.
  • Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan y ddau landlord – eich landlord chi a landlord y person yr ydych yn cyfnewid ag ef.

Os oes gennych landlord preifat neu os ydych yn byw mewn hostel, ni fyddwch yn gymwys i gyfnewid eich cartref.

Oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gael caniatâd landlord? Mae gan Shelter Cymru ganllaw defnyddiol.

Sut mae dod o hyd i rywun i gyfnewid ag ef

Y ffordd hawsaf o ddod o hyd i rywun yw drwy gofrestru gyda HomeSwapper – sef gwasanaeth mwyaf y DU ar gyfer trefniadau cydgyfnewid, y mae ganddo restr o dros 200,000 o gartrefi. Fel un o gwsmeriaid Grŵp ateb, gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim.

Pan fyddwch wedi cofrestru:

  • Darparwch fanylion eich cartref presennol a beth yr ydych yn chwilio amdano.
  • Ychwanegwch luniau (os oes modd – mae’n helpu!).
  • Dechreuwch chwilio am gartref a derbyn negeseuon pan fydd eiddo addas yn ymddangos.
  • Gallwch ddod o hyd i gartrefi posibl hefyd drwy hysbysebion lleol, grwpiau Facebook neu hyd yn oed hysbysfyrddau mewn siopau neu lyfrgelloedd.

Yn barod i gyfnewid eich cartref? Dyma fydd yn digwydd nesaf

Gwneud cais ar-lein

Llenwch ein Ffurflen Gwneud Cais am Drefniant Cydgyfnewid. Mae hwn yn gais ysgrifenedig ffurfiol am ganiatâd i gyfnewid eich cartref.

Cynnal gwiriadau ac archwiliadau

Bydd cydlynydd tai’n ymweld â’ch cartref i:

  • Archwilio cyflwr yr eiddo.
  • Nodi unrhyw dasgau atgyweirio y bydd angen i chi eu cwblhau cyn symud.
  • Gyda’ch caniatâd chi, byddwn yn gwahodd y person yr ydych yn cyfnewid eich cartref ag ef i weld yr eiddo, os nad yw wedi ei weld yn barod.
Cael caniatâd landlord

Rhaid i’r ddau landlord gymeradwyo’r trefniant cydgyfnewid. Ni fyddwn yn gwrthod oni bai bod yna reswm cyfreithiol dros wneud hynny, er enghraifft:

  • Ôl-ddyledion rhent.
  • Camau cyfreithiol oherwydd bod amodau contract wedi’u torri.
  • Y cartref yn rhy fawr neu’n rhy fach i’ch aelwyd.
  • Y cartref yn cynnwys addasiadau arbennig nad oes eu hangen ar y tenant newydd.
  • Problemau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Hawliau olyniaeth, neu gamau ar y gweill yn barod i droi rhywun allan.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom i wneud ein penderfyniad, byddwn yn gofyn i chi cyn pen 14 o ddiwrnodau. Pan fydd popeth gennym, bydd gennym fis i roi penderfyniad i chi’n ysgrifenedig.

Os byddwn yn gwrthod

Os caiff eich cais ei wrthod neu’i gymeradwyo gydag amodau, bydd gennych hawl i ofyn am esboniad ysgrifenedig.

I gael cyngor ynghylch beth i’w wneud os caiff eich cais am drefniant cydgyfnewid ei wrthod, neu os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch hawliau, gall Shelter Cymru helpu:
Cael help gan Shelter Cymru

Pethau pwysig i’w cofio

  • Rhaid i chi beidio â chyfnewid cartrefi heb gael caniatâd ysgrifenedig gan y ddau landlord – byddai gwneud hynny’n anghyfreithlon a gallai olygu bod y ddau barti’n colli eu cartrefi.
  • Peidiwch byth â chynnig arian neu roddion er mwyn annog rhywun i gydgyfnewid â chi – mae hynny’n anghyfreithlon hefyd.
  • Caiff cartrefi sy’n rhan o drefniant cydgyfnewid eu cymryd fel y cânt eu gweld – mae hynny’n golygu na fydd ateb yn gyfrifol am unrhyw waith addurno neu atgyweirio pan fyddwch wedi symud.

Ambell gyngor i sicrhau cydgyfnewid llwyddiannus

  • Dewiswch gartref o’r maint cywir – rhaid bod eich cartref newydd yn addas i anghenion eich aelwyd.
  • Gwiriwch a yw’n fforddiadwy – sicrhewch eich bod yn gallu fforddio’r rhent yn gysurus.
  • Holwch ynghylch anifeiliaid anwes – a fydd angen caniatâd arnoch ar gyfer eich anifail anwes?
  • Meddyliwch am barcio – a oes lle parcio ar gael ac a oes angen trwydded arnoch?
  • Sicrhewch eich bod yn deall y contract – pan fyddwch yn symud, byddwch yn cymryd cytundeb tenantiaeth y person arall a’i holl delerau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Atebion o ran Tai. Rydym yma i helpu. [email protected]

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →