Yn ateb, rydym yn credu mewn bod yn agored ac yn dryloyw. Dyna pam yr ydym yn falch o gyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o ateb Stories – ein e-gylchgrawn chwarterol y bwriedir iddo rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi’n gyson am ein perfformiad a rhannu straeon am brofiadau go iawn ein timau a’n cwsmeriaid.
Yn Rhifyn 5, rydym yn edrych yn fanylach ar y prif feysydd sydd bwysicaf i chi. Ar ôl cael adborth gwerthfawr gan ein fforwm cwsmeriaid, rydym wedi cyflwyno erthygl newydd sy’n dwyn y teitl Spotlight on… Y tro hwn, rydym yn canolbwyntio ar Eiddo Gwag ac ar Leithder a Llwydni. Rydym yn siarad â Paul Edwards, ein Rheolwr Cynnal a Chadw ac Eiddo Gwag, er mwyn ystyried yr heriau, ein dull o’u datrys, a’r modd yr ydym yn gweithio’n galed i wella eich cartrefi.
Cofiwch ddarllen y rhifyn diweddaraf o ateb Stories yn awr i weld sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd.
Dim ond yn Saesneg y mae’r cyhoeddiad hwn ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i wella ein prosesau er mwyn hybu ein darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg – diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwelliannau hynny.