Grŵp ateb yn cwblhau cam olaf datblygiad Boundary View / West Merrion Drive

Mae tîm datblygu Grŵp ateb wedi trosglwyddo’n swyddogol yr 20 cartref olaf ar ei safle yn Boundary View / West Merrion Drive yn Noc Penfro, sy’n golygu bod Cam 3 wedi’i orffen a bod y datblygiad llawn a gafodd ei lansio yn ystod gwanwyn 2022 wedi’i gwblhau.

Mae’r cartrefi gorffenedig yn ystod y cam olaf hwn yn cynnwys 4 byngalo, 8 fflat ac 8 tŷ, sy’n helpu i ddod â chyfanswm y cartrefi newydd yn y datblygiad i 100. Mae pob un ohonynt wedi’u hadeiladu yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae’r cynllun yn cynnig ystod eang o wahanol fathau o gartrefi – o fflatiau ag un ystafell wely i fyngalos wedi’u haddasu a chartrefi i deuluoedd. Bwriedir i’r cartrefi ddiwallu’r angen lleol am dai yn yr ardal.

Meddai Dan, ein Harweinydd Cartrefi Newydd:

“Mae Boundary View / West Merrion Drive wedi bod yn brosiect llwyddiannus. Drwy gydweithio’n agos â’n contractwr, Jones Brothers, rydym wedi rheoli rhaglen adeiladu a oedd yn gofyn llawer ac rydym wedi llwyddo i gwblhau’r cartrefi o fewn yr amserlen a ragwelwyd ar gyfer y contract. Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi golygu llawer o waith, ac rydym wrth ein bodd â’r canlyniadau.”

Mae’r garreg filltir hon yn pwysleisio ymrwymiad Grŵp ateb i ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon, sy’n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi’u hadeiladu i bara.

Cyhoeddwyd 02/12/2025