
Mae Credyd Cynhwysol yn eich cynnal os yw eich incwm yn isel neu os ydych yn ddi-waith. Mae’n daliad misol i helpu gyda’ch costau byw ac mae’n cynnwys elfen dai i dalu eich rhent.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol neu ar fin gwneud cais amdano, dyma’r cyfan y mae angen i chi ei wybod am sut y mae’n gweithio gyda’ch tenantiaeth ateb.
Sut mae cyflwyno hawliad
Caiff hawliadau am Gredyd Cynhwysol eu cyflwyno ar-lein drwy wefan gov.uk.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyfeiriad ebost a rhif ffôn
- Cyfrif banc
- Manylion eich rhent a’ch tenantiaeth (gweler isod)
📌 Cofiwch: Bydd angen hefyd i chi gyflwyno hawliad ar wahân am Ostyngiad y Dreth Gyngor drwy eich awdurdod lleol.
Talu eich rhent ar Gredyd Cynhwysol
Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, caiff eich costau o ran tai eu talu i chi yn hytrach nag yn uniongyrchol i ateb. Yna, rhaid i chi dalu eich rhent llawn i ateb bob mis ymlaen llaw, pan fyddwch wedi cael eich taliad.
Os ydych yn poeni am reoli hynny eich hun, gallwch ofyn am i’ch costau o ran tai gael eu talu’n uniongyrchol i ateb drwy Drefniant Talu Amgen. Gallech fod yn gymwys:
- Os oes gennych ôl-ddyledion rhent
- Os ydych yn agored i niwed mewn unrhyw ffordd neu os oes gennych anghenion cymhleth
- Os ydych yn cael trafferth rheoli arian.
Gallwch siarad â ni hefyd os ydych yn credu y gallai Trefniant Talu Amgen fod o help — rydym yma i’ch cynorthwyo.
Sut y gallwn eich cynorthwyo
Cydlynydd Lles Cymunedol
Gall ein tîm eich cynorthwyo drwy:
- Eich helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf
- Eich helpu i wneud cais am ragdaliad
- Rhoi benthyg dyfeisiau digidol i chi a’ch helpu i’w defnyddio
- Eich helpu i ddatrys problemau gyda’ch dyddlyfr Credyd Cynhwysol a gwneud cais i newid amserlenni talu er mwyn cael taliadau bob pythefnos.
Cydlynydd Tai
Gall eich Cydlynydd Tai:
- Eich helpu i ddeall sut y caiff eich rhent ei dalu dan Gredyd Cynhwysol
- Eich cynorthwyo i agor cyfrif banc
- Esbonio sut a phryd i dalu eich rhent
- Eich helpu i gasglu’r wybodaeth gywir am eich tenantiaeth
- Eich cyfeirio at gymorth pellach os oes angen.
📞 Cysylltwch â ni drwy ffonio 0800 854568 neu anfon ebost i [email protected]
Eich cyfrifoldebau chi
Wrth hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi:
- Gyflwyno eich hawliad ar-lein (Dechrau hawliad)
- Talu eich rhent i ateb bob mis
- Sicrhau nad yw eich cyfrif rhent mewn dyled a bod y rhent yn cael ei dalu ymlaen llaw
Yn ogystal, bydd angen i chi ddarparu manylion cywir am eich tenantiaeth, gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Swm ac amlder eich rhent
- Dyddiad dechrau eich tenantiaeth, a thelerau eich tenantiaeth
- Cadarnhad eich bod yn byw yn eich cartref.
🧾 Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth honno yn eich llythyr blynyddol am rent neu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif yn Fy Nghyfrif ateb.
Beth os ydych yn symud o fudd-daliadau etifeddol?
Erbyn diwedd mis Mawrth 2026, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu symud pawb sy’n cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Budd-dal Tai
…i Gredyd Cynhwysol.
Os byddwch yn cael hysbysiad trosglwyddo, bydd angen i chi gyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol cyn pen 3 mis.
🔗 Ewch i’n tudalen ynghylch Symud i Gredyd Cynhwysol i gael y manylion llawn a chael cymorth.
Gwybodaeth bwysig arall
Taliad wedi’i reoli i landlord
Os yw cwsmer yn agored i niwed neu os oes ganddo 2 fis neu fwy o ôl-ddyledion rhent, gall ateb ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau dalu’r costau o ran tai’n uniongyrchol i ni. Caiff hynny ei alw’n daliad wedi’i reoli i landlord. Gallwch gysylltu â ni i drafod hynny.
Cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau
Ni all landlordiaid siarad â’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich hawliad am Gredyd Cynhwysol oni bai:
- Eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i hynny ddigwydd, NEU
- Bod taliad wedi’i reoli ar waith yn barod.
Os ydych yn cael problemau gyda’ch dyddlyfr neu’n teimlo bod eich taliad Credyd Cynhwysol yn anghywir, bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Waith yn uniongyrchol.
🔗 Dod o hyd i’ch Canolfan Waith leol
Angen help?
Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch:
- Siaradwch â’ch Cydlynydd Tai
- Ffoniwch ni ar 0800 854568
- Anfonwch ebost i [email protected]
Rydym yma i’ch helpu i dalu eich rhent yn brydlon a gwneud yn fawr o’ch Credyd Cynhwysol.