Dim ond pe bai’r sŵn yn poeni person cyffredin o ddifri y bydd llysoedd yn fodlon gweithredu. Mae’n debyg na fydd digwyddiadau a gynhelir unwaith yn unig, megis parti, yn cyfrif. Ceisiwch siarad â’ch cymydog yn gyntaf—efallai nad yw’n sylweddoli ei fod yn swnllyd.
Os na fydd hynny’n gweithio, rhowch wybod i ni ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gadw dyddiadur sŵn am o leiaf bythefnos er mwyn ein helpu i asesu’r broblem.