Archwilio ein siwrnai o ran y Gymraeg yn ateb

Yr wythnos diwethaf gwnaethom gynnal sesiwn darganfod y Gymraeg, dan arweiniad Rhys Evans, Cyfarwyddwr Ateb Cymru (nad yw’n perthyn dim i ni!), a hynny er mwyn archwilio sut y gallwn gymryd camau pellach i hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg ar draws ein gwaith.

Taflodd y sesiwn rymus oleuni ar hanes a gwytnwch y Gymraeg, a oedd yn cynnwys trobwyntiau allweddol megis ymdrechion Trefor ac Eileen Beasley a’r araith ynghylch Tynged yr Iaith. Cawsom gyfle hefyd i archwilio beth y bydd Safonau’r Gymraeg sydd ar ddod yn ei olygu i gymdeithasau tai fel ni, a pha gamau y gallwn ddechrau eu cymryd yn awr i baratoi.

Fel y dywedodd Jo Thomas, ein Partner Pobl:

“Fe wnes i fwynhau dysgu am hanes yr iaith yn enwedig. Roedd yn ysbrydoliaeth clywed beth wnaeth Trefor ac Eileen yn ôl yn 1960 pan oedd y llywodraeth yn ceisio atal pobl rhag siarad Cymraeg. Gwnaeth eu stori nhw argraff arnaf – fe wnes i hyd yn oed adrodd y stori wrth fy nheulu y noson honno.”

Roedd y sesiwn yn gyfle pwysig hefyd i ofyn i ni ein hunain: Beth arall y gallem fod yn ei wneud i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd?
Buom yn myfyrio am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda’n barod, ble y gallai fod gennym fylchau, a beth fydd gofynion tebygol Safonau’r Gymraeg – o ddarparu gwasanaethau’n ddwyieithog a hyfforddi staff i gyfathrebu’n gynhwysol a mabwysiadu’r ‘cynnig gweithredol’.

Meddai Jo wedyn: “Roedd yn ffordd wych o archwilio beth yr ydym yn ei wneud yn ateb ar hyn o bryd a beth y gallai fod yn ofynnol i ni ei wneud yn y dyfodol. Roedd yn braf gweld ein bod yn gwneud tipyn yn barod ond, fel yr ydym yn ei ddweud bob amser yn ateb – ein gwaith o ddydd i ddydd yw gwella.”

Beth nesaf?

Bydd Rhys yn mynd ati’n awr i gynnal dadansoddiad o fylchau o ran y Gymraeg gyda phob un o’n timau, yn helpu i lunio cynllun gweithredu clir ac yn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y Safonau sydd ar ddod. Bydd hynny hefyd yn hybu ein hymrwymiad i gynhwysiant a chydraddoldeb ac i ymgysylltu’n fwy cadarn â’r gymuned ar draws Sir Benfro a thu hwnt.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu meddyliau – rydym yn edrych ymlaen at barhau i fynd ar y siwrnai hon gyda’n gilydd.

Cyhoeddwyd: 22/05/2025