Swyddi gwag

Trydanwr

Tua £33,000 y flwyddyn – gallwch ennill hyd at tua £36,000 y flwyddyn ar sail adolygiadau blynyddol o berfformiad.

37 awr yr wythnos, a bod yn rhan o’r rota ar gyfer bod ar alwad y tu allan i oriau gwaith

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yn y Pecyn Recriwtio a’r Proffil Rôl.

Nodwch y bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 9.30am, 16 Medi 2024

Dyddiad y cyfweliadau: 27 Medi 2024

I gael gwybod mwy am y cyfle cyffrous hwn ac i ymgeisio, cliciwch yma

Cofiwch ddilyn ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol i weld pob un o’r cyfleoedd gwych yr ydym yn eu cynnig.

Would you like to help us recruit new members of the ateb team?

If you are interested in getting involved in our recruitment process and are able to attend our recruitment days then please get in touch.

Click here to find out more.

CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT

Rydym wedi llofnodi adduned Tai Pawb, Gweithredu, Nid Geiriau ac wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd.

Ydych chi’n berson anabl neu’n berson Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol? Os byddwch yn llenwi ein ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydym yn gwarantu y byddwn yn eich cyfweld os byddwch yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Ni fydd y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn gallu gweld y ffurflen; fodd bynnag, bydd y Tîm Pobl yn cael gwybod eich bod wedi dewis un o’r categorïau nodweddion gwarchodedig a restrir uchod, er mwyn galluogi’r tîm i adolygu eich cais yn erbyn y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Os hoffech gael gwybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni yma: [email protected]

           

Ymunwch ag ateb

Mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud gwahaniaeth yn ateb.

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw swyddi gwag sydd wedi’u hysbysebu, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Pobl a Chyfathrebu drwy ffonio 01437 776950

3 cham er mwyn ymuno ag ateb:

Cam 1:

Ewch i’n gwefan i ddarllen mwy amdanom a’r hyn rydym yn ei wneud, er mwyn gweld a ydym yn addas i’n gilydd!

Os ydych yn hoffi’r hyn a welwch, cliciwch ar y rôl i gael gwybod mwy amdani er mwyn ymgyfarwyddo â hi.

Cam 2:

Pan fyddwch wedi darllen y dogfennau, ac os ydych yn teimlo ei bod yn rôl yr hoffech ei chyflawni, pwyswch y botwm ymgeisio. Sicrhewch fod y wybodaeth gennych wrth law, oherwydd bydd ei hangen arnoch er mwyn llunio cais gwych.

Yn ateb, rydym yn awyddus i glywed am eich sgiliau a’ch profiad a sut y maent yn berthnasol i’r rôl, felly peidiwch â bod yn ddiymhongar!

Os oes gennych anabledd, ac os hoffech gael help neu gyngor ynghylch ymgeisio neu os oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â ni: [email protected]

Pan fyddwch yn hapus â’ch cais, pwyswch y botwm Anfon ac arhoswch am fwy o wybodaeth.

Cam 3:

Ar ôl y dyddiad cau, bydd y Tîm Pobl a Chyfathrebu yn cysylltu â chi er mwyn rhoi gwybod i chi a ydych wedi eich gwahodd i gyfweliad.

Bydd y tîm yn cysylltu â phob ymgeisydd drwy ebost, felly cofiwch gadw llygad ar y negeseuon sy’n eich cyrraedd – cofiwch wirio eich ffolder sothach hefyd os na fyddwch wedi clywed gennym. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi.

Mae’r cyfweliad yn gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi yn well, ac yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt gennym ni – peidiwch â phoeni, rydym yn bobl gyfeillgar iawn!

Byddwch yn cael cyfle hefyd i gyfarfod â rhai o aelodau eich tîm yn y dyfodol er mwyn cael sgwrs dros baned o de neu goffi.

 

Mae ein DNA yn bwysig iawn i ni, ac yn ystod y broses recriwtio byddwn yn ystyried sut mae ymgeiswyr yn cyd-fynd â’n DNA. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Ewch i’n gwefan a’n cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o fanylion am ein swyddi gwag a’r swyddi a fydd yn cael eu cynnig gennym cyn bo hir.

Rydym bob amser yn awyddus i gyfarfod â gweithwyr proffesiynol talentog a fyddai’n hoffi ymuno â’n tîm, felly sicrhewch eich bod yn edrych ar ein gwefan/cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau.

‘Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, mae’n ofynnol i ateb gydymffurfio ag Atodlen 1 Deddf Tai 1996 sy’n gosod rhai amodau ar y berthynas rhwng Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Aelodau eu Bwrdd, a’u gweithwyr.

Diben Atodlen 1 yw sicrhau tryloywder ac uniondeb yng ngweithgareddau Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.

Egwyddor sylfaenol Atodlen 1 yw na ddylai Aelodau Bwrdd, eu perthnasau na’u cydnabod agos elwa mewn unrhyw fodd o ymwneud yr Aelod Bwrdd ag ateb.

Mae un o gyfyngiadau Atodlen 1 yn atal ateb rhag rhoi contract cyflogaeth i un o berthnasau neu gydnabod agos Aelod o’r Bwrdd. Mae ateb yn mynnu bod unrhyw unigolyn sy’n gwneud cais am swydd yn datgan y wybodaeth hon.

Oherwydd amodau Atodlen 1, ni all ateb gyflogi unrhyw un o berthnasau na chydnabod agos Aelod o’r Bwrdd.’

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →