Category Archives: Uncategorized @cy

Dysgu mwy am fioamrywiaeth ac am adfer natur

Mynychodd aelodau o’n tîm Seminar ynghylch Bioamrywiaeth yn ddiweddar, yn rhan o’n Cynllun Dysgu a Datblygu a’n hymrwymiad parhaus i greu mannau y gall pobl a natur ffynnu ynddynt. Cafodd y seminar ei chyflwyno gan Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, gyda chymorth gan Becky, Swyddog Bioamrywiaeth Corfforaethol Cyngor Sir Penfro. Roedd yn gyflwyniad diddorol i […]

Digwyddiad Cymunedol Llawn Hwyl

Bydd ateb yn cynnal digwyddiad cymunedol i bobl o bob oed. Dyma’r manylion: Neuadd Goffa Treletert a’r Cae SA62 5RY Dydd Mercher 22, Gorffennaf 2026 12pm –3pm Dyma gyfle i bawb, yn enwedig yn Nhreletert a’r ardaloedd cyfagos, gwrdd â staff ateb ac asiantaethau cymorth, cael ychydig o hwyl, dysgu sgiliau newydd neu eistedd a sgwrsio […]

Fforwm Cwsmeriaid

Dweud eich dweud Mae ateb yn cynnal Fforwm Cwsmeriaid yn eich ardal. Nod y sesiwn yw trafod materion sydd o’r pwys mwyaf i gwsmeriaid ac sy’n effeithio ar lawer ohonynt, er enghraifft pethau sy’n digwydd yn eich stryd, eich bloc o fflatiau neu ar draws ateb yn ogystal â rhoi newyddion ateb i chi.  (Nid […]

Yr Wythnos Ffoaduriaid: Deall y ffeithiau am dai yng Nghymru

Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle i gydnabod profiadau pobl sy’n chwilio am ddiogelwch ac yn gyfle i annog mwy o ddealltwriaeth yn ein cymunedau. Gall sgyrsiau am dai a mewnfudo fod yn gymhleth weithiau, ac nid yw bob amser yn hawdd gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid eleni, hoffem annog pobl […]

Cyllid gan y Loteri Genedlaethol i helpu mwy o gwsmeriaid i fynd ar-lein

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ateb wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, drwy ei rhaglen Arian i Bawb, i roi prosiect newydd ar waith o’r enw Cynhwysiant Digidol drwy Dechnoleg Hygyrch. Bydd y prosiect yn helpu i ddileu rhwystrau i fynediad digidol drwy ddarparu offer a chymorth i’r cwsmeriaid y mae arnynt […]

Cylchfan De Clare Court ar ei newydd wedd

Mae cwsmeriaid yn De Clare Court wedi dechrau creu man awyr agored newydd sy’n harddach ac yn fwy croesawgar, diolch i gymorth gan Roscoe Tree Services yn rhan o Raglen Budd Cymunedol 2026 y cwmni. Ardal y gylchfan o flaen De Clare Court yw’r argraff gyntaf y mae cwsmeriaid, ymwelwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ei […]

FireRite yn helpu i harddu Kensington Court ar gyfer y gwanwyn

Mae cwsmeriaid yn Kensington Court wedi gweld eu mannau awyr agored yn cael eu gwella’r gwanwyn hwn, diolch i haelioni ein partner, FireRite. Rhoddodd FireRite fagiau o gompost, amrywiaeth o blanhigion, ac offer garddio er mwyn helpu cwsmeriaid i wneud yn fawr o’r ardaloedd awyr agored cyffredin ac ychwanegu ychydig o liw ar gyfer y […]

Newid bach yn gwneud gwahaniaeth mawr

Yn Barn Court, mae syniad syml wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd pob dydd cwsmeriaid sy’n defnyddio’r ardd gyffredin. Roedd y cwsmeriaid wedi ychwanegu goleuadau solar er mwyn helpu i harddu’r man awyr agored a rennir, gan greu ardal y gallent ei mwynhau ac ymfalchïo ynddi. Fodd bynnag, oherwydd bod y tir yn cael ei […]

Creu lle i gael sgyrsiau gonest am y menopos

Mae’r menopos yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn dal i deimlo’n anghyffyrddus wrth ei drafod. Yn rhy aml, caiff ei drafod yn dawel neu ni chaiff ei drafod o gwbl. Yn ateb, rydym am helpu i newid hynny. Yn ddiweddar, gwnaethom ymuno â Heidi o Positive Thinking i gyflwyno cyfres o weithdai ymwybyddiaeth […]

Croeso cynnes adre i gwsmeriaid newydd ateb ym Mharc Maen Hir, Treletert

Yn ddiweddar, rydym wedi croesawu cwsmeriaid i 26 o gartrefi newydd sbon ym Mharc Maen Hir yn Nhreletert. Roedd yn achlysur arbennig i bawb dan sylw ac yn gam pwysig tuag at greu cymuned gysylltiedig sy’n tyfu. Mae’r cartrefi hyn wedi cael eu gosod drwy ein polisi gosod tai i bobl leol, sy’n helpu pobl […]