Ein Bwrdd

Mae Bwrdd ateb yn cynnwys aelodau anweithredol y mae ganddynt y sgiliau a’r profiad ar y cyd i lywodraethu grŵp ateb.

Mae eu cyfrifoldebau llywodraethu lefel uchel yn canolbwyntio ar:

  • Bennu a monitro cyfeiriad strategol.
  • Asesu a rheoli risg.
  • Monitro ac addasu perfformiad.

Caiff gweledigaeth y Bwrdd ynghylch sut y dylai ateb gyflawni ei rwymedigaethau ei hegluro mewn dogfen o’r enw ‘Vision’. Mae’r Bwrdd yn monitro ateb ar sail y ddogfen hon er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu’n effeithiol.

Mae’r Bwrdd yn gweithredu’n unol â ‘Fframwaith Rheoleiddio’ Llywodraeth Cymru ac mae’n cwrdd tua 12 gwaith y flwyddyn. Mae ganddo nifer o is-bwyllgorau i’w gynorthwyo gyda’i waith:

  • Y Pwyllgor Sicrwydd – sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Bwrdd a chraffu arno ac sy’n gyfrifol am y gofrestr risg, y gofrestr asedau a rhwymedigaethau, a swyddogaethau archwilio mewnol.
  • Y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol – sy’n gyfrifol am asesu tâl a datblygu arferion ac amodau gweithio fel tîm.

Mae gan bob un o’n his-gwmnïau, sef Mill Bay Homes, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac Effective Building Solutions, eu Byrddau eu hunain sy’n adrodd wrth riant-Fwrdd ateb yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Dyma Fwrdd ateb:
  • Siwan Davies

    Cadeirydd

    Yn ystod ei gyrfa, mae Siwan wedi bod yn cyflawni amryw swyddi ar yr un pryd. Ei harbenigedd yw arweinyddiaeth strategol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan ganolbwyntio ar lywodraethiant yn y sector cyhoeddus, safonau mewn bywyd cyhoeddus, a newid trawsnewidiol. Mae gan Siwan dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel bwrdd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae’n adnabyddus am ei heglurder, ei phroffesiynoldeb a’i gallu i gael y gorau allan o bobl. Ar ôl bod yn gweithio mewn prifddinasoedd gartref a thramor, mae bellach yn byw yng ngorllewin Cymru lle cafodd ei magu.

  • David Birch

    Mae gan David brofiad helaeth o weithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Dechreuodd ar ei yrfa fel Drafftsmon Peirianneg Drydanol cyn symud i weithio fel Rheolwr Cyfleusterau gyda BT gan ennill cymhwyster ôl-raddedig mewn Astudiaethau Rheoli. Ymunodd David â’r GIG yn 1994 fel Cyfarwyddwr Cyfleusterau yng Ngwent cyn ymgymryd â swydd y Pennaeth Gwasanaethau Contractau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 2004 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a phenderfynodd ymddeol yn 2010. Mae gan David brofiad o weithio yn y sector tai, oherwydd bu’n Is-gadeirydd ac yna’n Gadeirydd cymdeithas dai yng Nghaerdydd am 6 blynedd cyn ymuno ag ateb.

  • Elaine Lorton

  • Jackie Leonard

    Mae Jackie yn Ymgynghorydd, ac mae’n gweithio yn y sector tai ers dros 20 mlynedd fel Cyfarwyddwr. Mae arbenigedd a sgiliau Jackie wedi’u defnyddio mewn amryw rolau gwasanaeth ar draws y sector, a hynny ym maes cynllunio, rheoli cyllidebau, rheoli contractau a darparu gwasanaethau.

  • Jade Francis

    Mae Jade yn Frocer/Rheolwr Morgeisi Annibynnol yn Willcox Financial Limited ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio fel uwch-swyddog yn y sector bancio. Mae gan Jade brofiad helaeth o ddarparu cyngor ariannol i gleientiaid ac mae ganddi Ddiploma mewn Cyflawni Busnes ym maes Bancio Manwerthol.

  • Jonathan Fearn

    Mae Jonathan yn Syrfëwr Siartredig Cynllunio a Datblygu sydd â thros 35 mlynedd o brofiad. Roedd Jonathan yn Bennaeth Eiddo yng Nghyngor Sir Caerfyrddin am 21 mlynedd nes iddo ymddeol yn gynnar ym mis Mai 2025. Roedd ei swyddi yn Sir Gaerfyrddin yn ymwneud â thai ac eiddo masnachol, gan gynnwys ystadau, rheoli asedau strategol, adeiladu, cynnal a chadw, prosiectau adfywio, a datblygu eiddo. Cyn hynny, bu Jonathan yn gweithio mewn swyddi ym maes eiddo, datblygu a rheoli i elusen yng Nghaerdydd, i gwmni preifat o syrfewyr yn Llundain ac i Gyngor Sir Berkshire. Mae gan Jonathan radd anrhydedd mewn Rheoli Tir (Datblygu) o Brifysgol Reading.

  • Judith Hardisty

    Mae Judith yn aelod Bwrdd profiadol ar ôl iddi fod yn gweithio am flynyddoedd lawer fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol/Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn y GIG yng Nghymru a Lloegr. Bu hefyd yn aelod annibynnol/Is-gadeirydd/Cadeirydd interim ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac yn un o Lywodraethwyr Coleg Sir Benfro. Mae’n byw yn Sir Benfro ac yn mwynhau garddio, gwylio chwaraeon, y theatr a cherddoriaeth.

  • Margaret Ojeniyi

    Aelod o’r Pwyllgor Pobl

  • Neil Edwards

  • Nick Hampshire

  • Nisha Harichandran

    Mae Nisha yn awdur ac yn hyfforddwr. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad ym maes y gyfraith yn cynnig atebion gweithredol a strategol i randdeiliaid yn fyd-eang, gan feithrin cydberthnasau drwy gydweithredu. Mae Nisha wedi cael addysg i lefel diploma ôl-raddedig ac mae’n Ymarferydd Meistr NLP.

  • Owen Jones

    Mae Owen yn Gyfarwyddwr ymgynghoriaeth annibynnol ym maes cynllunio trefol, sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ym maes cynllunio a datblygu, ac mae’n Gynllunydd Trefol Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Mae gwaith Owen ar hyn o bryd yn ymwneud â gweithio gyda thirfeddianwyr a datblygwyr preifat ar ystod o gynlluniau datblygu strategol sy’n cynnwys safleoedd o bwys ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg; hyrwyddo cynlluniau datblygu; ymdrin â cheisiadau cynllunio; cynnal Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol; ac ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd. Mae gan Owen radd MSc mewn Datblygu Eiddo Preswyl.

  • Vicki Miller

    Mae Vicki Miller yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes tai, ac ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Tai a Chymunedau i gymdeithas dai yng Nghaerdydd. Mae ganddi radd o Brifysgol Leeds a Diploma Ôl-raddedig mewn Tai. Mae gan Vicki hanes ardderchog o weithio ym maes profiad cwsmeriaid, darparu gwasanaethau ac arwain drwy newid, ac mae’n arbenigo mewn hybu trawsnewid mewn diwylliant ac mewn sicrhau bod dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl yn rhan annatod o wasanaethau. Mae cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig iawn iddi, yn ogystal â sicrhau bod lleisiau cwsmeriaid a chymunedau nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn dylanwadu’n weithredol ar benderfyniadau. Arferai Vicki fod yn Is-gadeirydd TPAS Cymru lle bu’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hybu cyfranogiad tenantiaid a dylanwadu ar bolisi tai ar lefel genedlaethol. Mae’n cyfrannu dealltwriaeth strategol, gwybodaeth am y sector, ac arddull arwain gydweithredol i’w rôl fel aelod Bwrdd.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →