Rydym wedi ymuno â Gwaith yn yr Arfaeth i helpu mwy o bobl ar draws y gorllewin i gymryd eu cam nesaf tuag at gael gwaith.
Yn rhan o’r bartneriaeth newydd hon, bydd ein tîm yn mynychu sesiynau ymarferol cymorth go iawn i’r sawl y mae arnynt ei angen. Boed yn help i ysgrifennu ceisiadau a CVs neu’n help i baratoi ar gyfer cyfweliadau neu ddeall sut i ymgeisio am swyddi gyda ni, byddwn yno i estyn llaw.
Cafodd ein sesiwn gyntaf ei chynnal yn ddiweddar lle bu Kate, ein Cynghorydd Pobl, yn taflu goleuni ar y broses recriwtio ac yn sgwrsio ag unrhyw un a oedd â diddordeb mewn gweithio i ateb neu weithio yn y sector tai yn ehangach.
Mae’r bartneriaeth wedi’i chreu gan Adam, ein Partner Dysgu a Datblygu, sydd wedi bod yn cydweithio’n agos â Gwaith yn yr Arfaeth i gryfhau cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth.
Dyma oedd gan Kate i’w ddweud:
“Roedd yn braf cwrdd â phobl sy’n ceisio cymryd y cam nesaf. Weithiau, mae ychydig o anogaeth ac arweiniad clir yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth. Roeddwn yn falch o gael y cyfle i drafod beth yr ydym yn chwilio amdano yn ateb a sut mae paratoi cais cryf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd y bartneriaeth hon yn helpu pobl i fagu hyder a symud i swyddi y byddant yn ffynnu ynddynt.”
Meddai Adam wedyn:
“Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi ymrwymo fel ninnau i helpu pobl i wireddu eu potensial, felly roedd y bartneriaeth hon yn un hollol naturiol. Drwy rannu ein profiad o recriwtio a datblygu yn uniongyrchol â phobl sy’n chwilio am waith, rydym yn gobeithio y byddwn yn chwalu rhai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ymgeisio am swyddi. Megis dechrau yr ydym, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau cadarnhaol y gallwn eu cyflawni gyda’n gilydd.”
Bydd ein sesiynau Gwaith yn yr Arfaeth yn parhau drwy gydol y flwyddyn, a byddant yn cynnig cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac i ysgrifennu ceisiadau a CVs.
Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 16 Rhagfyr yn Llyfrgell Aberdaugleddau.
Os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â Gwaith yn yr Arfaeth: [email protected]


