Pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Wrth i fwy o gwsmeriaid ddechrau defnyddio cerbydau trydan, rydym yn deall y diddordeb cynyddol sydd mewn gosod pwyntiau gwefru gartref. Os ydych yn un o gwsmeriaid ateb sy’n ystyried gwneud hynny – naill ai’n breifat neu drwy grant symudedd – dyma sydd angen i chi ei wybod:

Yr opsiynau sydd ar gael

Talu â’ch arian eich hun

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu am osod y pwynt gwefru â’ch arian eich hun. Rhaid cael cymeradwyaeth gan ateb cyn bod unrhyw waith yn dechrau.

Chi fyddai’n gyfrifol am y canlynol:

  • Talu am yr holl gostau gosod, gan gynnwys unrhyw waith uwchraddio angenrheidiol.
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio gosodwr sydd wedi’i ardystio a’ch bod yn cydymffurfio â rheoliadau ynglŷn â diogelwch a’r amgylchedd lleol a rheoliadau adeiladu.
  • Darparu disgrifiad o gwmpas arfaethedig llawn y gwaith yn ogystal â datganiad o ddull ar gyfer y gwaith gosod dan sylw gan y gosodwr, sy’n cynnwys unrhyw geisiadau cynllunio gofynnol, dyluniadau llawn ar gyfer y system, a manylion am y galw ar y seilwaith trydanol, fel y gellir eu hadolygu ochr yn ochr â’ch cais am welliannau cyn bod unrhyw waith yn dechrau.
  • Cyflwyno dogfennau cwblhau a chomisiynu, gan gynnwys unrhyw gymeradwyaeth gynllunio, pan fydd y gwaith wedi’i orffen.
  • Cynnal a chadw’r pwynt gwefru gydol ei oes.
  • Talu costau gwaredu neu adnewyddu os oes angen yn y dyfodol (e.e. ar ddiwedd contract neu pan wneir gwaith i’r eiddo).

Talu drwy grant symudedd

Os ydych yn gymwys, mae’n bosibl y bydd grant symudedd yn talu rhai neu’r cyfan o’r costau gosod.

Chi fyddai’n gyfrifol am y canlynol:

  • Gwneud cais am y grant, a rheoli’r broses gyda darparwr y grant.
  • Sicrhau bod y gosodwr yn bodloni gofynion ateb.
  • Sicrhau bod caniatâd cynllunio wedi’i roi a bod y gwaith yn bodloni’r holl reoliadau adeiladu perthnasol.
  • Darparu disgrifiad manwl o gwmpas y gwaith ynghyd â thystiolaeth o gymwyseddau’r gosodwr, sy’n cynnwys tystysgrifau ffurfiol ar gyfer gwaith trydanol a gwaith cloddio.
  • Cyflwyno dogfennau cwblhau a chomisiynu ac unrhyw gymeradwyaeth gynllunio berthnasol.
  • Cynnal a chadw’r pwynt gwefru a thalu am unrhyw gostau gwaredu neu adnewyddu yn y dyfodol, nad yw’r grant yn talu amdanynt.

 

Cyn i chi brynu eich cerbyd

Os ydych yn ystyried prynu cerbyd trydan neu gymryd un ar brydles, dylech aros nes y byddwch wedi cael cymeradwyaeth ar gyfer eich pwynt gwefru gartref – oni bai bod gennych le diogel a hygyrch arall yn barod i wefru eich cerbyd.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r ffaith bod gennych gerbyd trydan yn golygu’n awtomatig y bydd cymeradwyaeth yn cael ei rhoi.

Beth y bydd ateb yn ei wneud?

  • Adolygu eich cais i osod pwynt gwefru.
  • Rhoi cyngor am leoliadau addas ac am unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i’r eiddo.
  • Sicrhau nad yw gosod y pwynt gwefru’n tarfu ar ardaloedd cyffredin neu fynedfa a rennir.
  • Cydlynu â’r timau mewnol perthnasol (e.e. cydymffurfio, rheoli asedau) i sicrhau bod yr holl risgiau’n cael eu hystyried – yn enwedig os oes angen cloddio neu os yw’r gwaith yn ymwneud â mannau a rennir.

 

Diwedd contract neu newidiadau i’r eiddo

Os byddwch yn symud allan, neu os bwriedir gwneud gwaith mawr:

  • Mae’n bosibl y gofynnir i chi waredu’r pwynt gwefru gan dalu am y gwaith hwnnw eich hun.
  • Os caiff y pwynt gwefru ei ddifrodi neu os bydd yn achosi problemau, mae’n bosibl mai chi fydd yn gyfrifol am ei atgyweirio neu’i waredu.

Pethau i’w hystyried

  • Mae’r gwaith o osod pwyntiau gwefru’n gallu cynnwys sawl tîm gwahanol (e.e. cydymffurfio, asedau ac ystadau), felly rhaid bod pawb yn deall eu rôl er mwyn osgoi dryswch neu gamgymeriadau – yn enwedig mewn ardaloedd a rennir neu ardaloedd cyffredin.
  • Yn rhan o’r broses gymeradwyo, byddwn yn gofyn i osodwyr ddarparu rhestr gyflawn o’u sgiliau a’u cymwysterau, gan gynnwys tystysgrifau ar gyfer gwaith trydanol a gwaith cloddio. – Y rheswm am hynny yw bod cyrff yn y diwydiant wedi mynegi pryderon am osodiadau sydd o ansawdd gwael neu sy’n anniogel, felly rydym yn tynhau ein prosesau archwilio er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn gywir.
  • Os ydych yn newid pwynt gwefru presennol neu’n gosod un newydd, bydd angen i chi roi gwybod i ateb yn ysgrifenedig a chael caniatâd cyn symud ymlaen.

 

Camau nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn gosod pwynt gwefru:

  • Cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai neu llenwch y ffurflen ar-lein ar gyfer gwella eich cartref.
  • Darparwch fanylion am eich gosodwr, y ffynhonnell ariannu a chwmpas llawn y gwaith.
  • Arhoswch am gymeradwyaeth ysgrifenedig cyn symud ymlaen.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →