Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2025/2026

Ni fydd ein timau a’n canolfan gyswllt ar gael rhwng 12pm ddydd Mercher 24 Rhagfyr a 10am ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

Bydd ein contractwyr yn dychwelyd ddydd Llun 5 Ionawr 2026, a bydd unrhyw waith brys yn cael blaenoriaeth.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein llinellau ffôn yn trosglwyddo galwadau i ddarparwr gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau yn unig. Os nad ydych yn siŵr beth sy’n cael ei ystyried yn argyfwng, gallwch gael gwybod mwy yma.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hynny ei achosi a diolch i chi am eich parodrwydd i ddeall.

Pan fydd ein llinellau ffôn yn ailagor am 10am ddydd Gwener 2 Ionawr, mae’n bosibl y byddwn yn cael llawer iawn o alwadau. Os byddwch yn ceisio cysylltu â ni, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

Hoffai pob un ohonom yng Ngrŵp ateb ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Cyhoeddwyd 1/12/2025