Partneriaeth newydd â Chyngor Sir Penfro i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ateb yn falch o fod yn rhan o ddull gweithredu newydd ar y cyd â Chyngor Sir Penfro, a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau ei effaith negyddol ar ein cymunedau. Dyma’r tro cyntaf i hynny ddigwydd yng Nghymru.

Mae yna amryw fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol – o sŵn ac ymddygiad sarhaus i ollwng sbwriel a chamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon – a gall effeithio’n ddifrifol ar ansawdd bywyd pobl. Mae mynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath wedi gofyn bob amser am ymdrech gyfun gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol fel ateb.

Yn awr, yn rhan o gam cyffrous ymlaen, mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro wedi dirprwyo awdurdod fel y gall Cydlynwyr Tai ateb a enwir ddefnyddio Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned lle bo’n briodol. Bydd y pŵer newydd hwn yn ein galluogi i weithredu’n fwy cyflym ac uniongyrchol i ddatrys problemau yn ein cartrefi a’n cymunedau.

Mae Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned yn adnodd cyfreithiol y bwriedir iddo atal unigolion (16+ oed), busnesau neu sefydliadau rhag parhau ag ymddygiad sy’n cael effaith andwyol ar y gymuned. Caiff yr Hysbysiadau eu defnyddio fel rheol i fynd i’r afael â phroblemau megis niwsans a achosir gan sŵn, perchnogion anghyfrifol cŵn, neu wastraff sy’n cronni.

Yn ateb, byddwn yn aml yn clywed am broblemau’n gynnar, sy’n rhoi cyfle i ni ymyrryd yn sydyn. Yn awr, gyda’r awdurdod newydd hwn, gallwn gymryd camau rhagweithiol yn gynharach, gan helpu i atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu a gwella canlyniadau i bawb dan sylw.

Meddai Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid ateb:
“Mae ateb wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn gallu byw mewn amgylchedd saff, sefydlog a diogel.

“Mae gallu gweithredu’n gyflym pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn allweddol er mwyn cyflawni’r addewid hwnnw. Mae’r dull gweithredu newydd hwn yn sicrhau bod gan ein timau yr adnoddau i wneud gwahaniaeth go iawn, drwy weithio’n agos gyda’r Cyngor a’n partneriaid eraill i warchod ein cymunedau.

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth yn Sir Benfro – dod ynghyd i ddarganfod yr atebion gorau i’n cwsmeriaid a’n cymdogaethau.”

Bydd y dull gweithredu hwn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb a rennir. Cyn y gallwn gyflwyno llythyr rhybuddio ynghylch Hysbysiad Gwarchod y Gymuned neu gyflwyno Hysbysiad ffurfiol o’r fath, bydd angen o hyd i ni gael caniatâd gan Gyngor Sir Penfro neu Heddlu Dyfed-Powys. Y Cyngor fydd yn dal yn gyfrifol am benderfynu a ddylid erlyn rhywun neu beidio am fethu â chydymffurfio.

Mae Cydlynwyr Tai ateb sy’n ymwneud â’r broses hon wedi cael hyfforddiant llawn, a bydd gwaith monitro a goruchwylio parhaus yn digwydd er mwyn sicrhau bod yr adnodd yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac yn effeithiol.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gartrefol ac yn teimlo eu bod yn cael eu parchu. Os ydych chi’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu drwy fynd i’n gwefan, a gallwch hefyd roi gwybod i ni’n uniongyrchol ar-lein am broblemau.

Cyhoeddwyd: 19/06/2025