Cartrefi Stone Court yn fwy gwyrdd ar ôl cael paneli solar

Yn rhan o’n hymrwymiad i wella effeithlonrwydd ynni a chefnogi ein cymunedau drwy gynnig atebion cynaliadwy iddynt, rydym newydd gwblhau prosiect ôl-osod newydd er budd yr amgylchedd yn Stone Court yn Aberdaugleddau. Mae paneli solar wedi’u gosod ar 13 o gartrefi yn yr ardal yn rhan o’r fenter hon, sy’n helpu i leihau biliau ynni ac allyriadau carbon i’n cwsmeriaid.

Buom yn sgwrsio’n ddiweddar â Peter a Valerie y cafodd paneli solar eu gosod ar eu cartref tua mis yn ôl.

Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn

“Yn hapus dros ben” â’r canlyniadau

“Roeddem yn hapus dros ben pan gawsom wybod y byddem yn eu cael nhw,” meddai Valerie. “Roeddem wedi clywed sïon ac roeddem wir yn gobeithio y byddai’n digwydd. Mae wedi bod yn wych.”

Mae’r pâr wedi sylwi ar wahaniaeth amlwg yn eu costau ynni yn ystod y cyfnod byr ers i’r paneli gael eu gosod.

“Yn ystod mis Ebrill, roedd ein biliau ynni wedi gostwng i geiniog y dydd – ac i 50c yn unig ar ambell ddiwrnod gwlyb. Mae’n wahaniaeth enfawr. Dywedodd un o’n cymdogion mai dim ond ychydig dros £1 oedd ei fil e’.”

Gwaith cyflym, taclus a threfnus

Cymerodd tua wythnos i gyflawni’r broses o osod y paneli. Er i un cyflenwad o nwyddau gyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl, dywedodd Peter a Valerie fod y contractwyr yn “fois gwych” a oedd yn rhannu gwybodaeth yn gyson â nhw bob cam o’r ffordd.

“Roedd Craig, a oedd yn arwain y gwaith, yn wych – roedd yn cadw i fynd drwy’r dydd heb hyd yn oed stopio i gael cinio,” meddai Peter. “Roedd y bois yn gwrtais, yn daclus ac yn broffesiynol iawn. Dim annibendod a dim ffwdan – roedden nhw’n bwrw ymlaen â’u gwaith yn hollol ddi-ffws.”

Hyd yn oed ar ddiwrnodau glawog, byddai’r tîm yn cyrraedd ac yn bwrw ati, sy’n rhywbeth yr oedd y ddau’n ei werthfawrogi yn fawr.

Gwneud yn fawr o’r haul

Yn ôl Valerie, sydd wedi bod yn trafod â’i chymdogion sut mae gwneud yn fawr o fanteision ynni’r haul, mae ychydig o newidiadau syml wedi eu helpu i gael y budd mwyaf o’r system.

“Rwy’n golchi dillad, yn pobi, ac yn coginio llawer o brydau bwyd ymlaen llaw pan fydd yr haul yn gwenu – dyna pryd y mae’r paneli yn gwneud eu gwaith. Rydym hyd yn oed wedi dechrau diffodd popeth cyn mynd i’r gwely, er mwyn arbed mwy o ynni.”

Mae 20 o baneli wedi’u gosod ar gartref y ddau erbyn hyn, yn ogystal â batri i storio’r ynni sydd dros ben – sy’n eu galluogi i’w ddefnyddio pan na fydd yr haul yn gwenu.

“Ewch amdani – peidiwch ag oedi”

Pan ofynnwyd iddynt beth y byddent yn ei ddweud wrth bobl eraill a allai gael cynnig paneli solar, atebodd y ddau yn syth.

“Ewch amdani. Nid yw’r gwaith yn tarfu’n ormodol arnoch, ac mae’r manteision yn wych. Roeddem heb drydan am tua chwe awr ryw ddiwrnod, ond roedd yn werth y drafferth. Gall toriad trydan bara’n hirach na hynny!”

Hybu dyfodol mwy gwyrdd

Mae’r prosiect ôl-osod diweddaraf hwn yn rhan o’n gwaith parhaus i wella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi a lleihau allyriadau carbon ar draws ein cymunedau. Drwy fuddsoddi mewn technoleg gynaliadwy megis paneli solar, rydym yn helpu ein cwsmeriaid i arbed costau ynni heddiw gan hybu dyfodol mwy gwyrdd ar gyfer yfory.

Cyhoeddwyd – 20/05/2025