Monthly Archives: June 2025

Ymddiriedolaeth ateb: Rownd gyllido newydd yn dechrau ym mis Gorffennaf!

Mae’r cyfnod i wneud cais am gyllid gan Ymddiriedolaeth ateb ar fin cychwyn, a bydd yn agored drwy gydol mis Gorffennaf! Diolch i’r rhodd cymorth hael a geir gan Mill Bay Homes, mae Ymddiriedolaeth ateb yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 i brosiectau a arweinir gan y gymuned, sy’n: Creu cymunedau hunangynhaliol a chydnerth […]

ateb yn adolygu baneri cwsmeriaid er mwyn cadw pawb yn ddiogel

Yn rhan o’n hadolygiad GDPR parhaus, mae ateb yn cymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym am ein cwsmeriaid yn cael ei defnyddio’n gywir ac yn unol â rheoliadau diogelu data. Ar hyd y blynyddoedd, rydym wedi bod yn ychwanegu baneri defnyddiol at ein systemau er mwyn sicrhau bod ein timau’n ymwybodol o […]

O waliau oer i gartrefi clyd: gwneud gwaith ôl-osod ym Maes-y-Môr

John sy’n rhannu ei brofiad o’r gwelliannau ôl-osod a gyflawnwyd yn ddiweddar yn ei gartref. Mae John yn byw ym Maes-y-Môr ers sawl blwyddyn, ac yn ddiweddar cafodd gwaith uwchraddio’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ei gyflawni yn ei gartref, yn rhan o’n rhaglen ôl-osod barhaus. Er bod y gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn, mae John […]

Creu cymunedau cryfach, fesul tamaid

Ddydd Gwener 13 Mehefin, roedd ystâd Three Meadows yn Hwlffordd yn llawn bwrlwm a chwerthin, bownsio a hwyl, ac roedd arogl hyfryd pitsas wedi’u coginio mewn ffwrn goed yn llenwi’r lle. Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan ateb, â thua 50 o gwsmeriaid a’u teuluoedd ynghyd i fwynhau prynhawn o fwyd, sbort a sbri, a […]

Gwaith ôl-osod ym Maes-y-Môr yn golygu hafau oerach a gaeafau cynhesach

Michelle sy’n rhannu ei phrofiad o brosiect ôl-osod a gyflawnwyd yn ddiweddar yn ei chartref yn Solfach. Buom yn sgwrsio’n ddiweddar â Michelle, un o’n cwsmeriaid ym Maes-y-Môr, er mwyn clywed am y gwelliannau a wnaed i’w chartref yn rhan o’n gwaith ôl-osod diweddaraf. Mae deunydd inswleiddio wedi’i osod ar waliau allanol cartref Michelle ac […]

Ddweud eich dweud – Fforwm Cwsmeriaid

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau, 19 Mehefin, 2025, am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn […]

Dyma gyflwyno Rhifyn 5 o “ateb Stories”: Sut hwyl rydym yn ei chael?

Yn ateb, rydym yn credu mewn bod yn agored ac yn dryloyw. Dyna pam yr ydym yn falch o gyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o ateb Stories – ein e-gylchgrawn chwarterol y bwriedir iddo rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi’n gyson am ein perfformiad a rhannu straeon am brofiadau go iawn ein timau a’n cwsmeriaid. Yn Rhifyn 5, rydym yn […]

Hwb o £37 miliwn i wella cartrefi ateb

Yn ateb, rydym o’r farn bod pawb yn haeddu cael cartref cyffyrddus a chynnes sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ansawdd ein cartrefi a gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mewn 122 o gartrefi ateb er […]