Cwrdd i Hybu Lles: Uchafbwyntiau ein Cymanfa Les 2025 yn Arberth

Ddydd Mercher 21 Mai, gwnaethom estyn croeso i gwsmeriaid o bob rhan o’r gymuned i’n Cymanfa Les 2025 yn Neuadd y Frenhines, Arberth – digwyddiad i wrando, rhannu profiadau a chynnig cymorth er mwyn ymateb i’r pwysau parhaus a achosir gan gostau byw.

Cafodd y Gymanfa Les ei chynnal mewn lleoliad hamddenol a chynhwysol, ac roedd yn amgylchedd lle gallai pobl sgwrsio a chysylltu â’i gilydd. Ymunodd y cwsmeriaid â thrafodaethau mewn grwpiau bach ag ystod eang o aelodau o dîm ateb a sefydliadau partner, er mwyn sgwrsio am eu profiadau a darganfod pa gymorth sydd ar gael.

Meddai David Tovey, ein Pennaeth Cwsmeriaid: “Os ydym am ddarparu’r gwasanaethau cywir, rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae ar ein cwsmeriaid ei angen mewn gwirionedd – dyna pam y mae diwrnodau fel hyn mor bwysig.”

P’un a oedd yn gyfle i ddysgu am gymorth digidol gan ein Cydlynydd Lles Cymunedol, Andrew Jenkins, yn gyfle i drafod cynghorion am arbed ynni â’n Swyddog Ynni Cartref, Catherine Morse, neu’n gyfle i fynegi pryderon am eiddo wrth ein Pennaeth Eiddo – roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’n cwsmeriaid fynegi eu barn a chlywed gennym ni.

At hynny, cawsom gwmni partneriaid lleol gwych a oedd yn cynnwys y canlynol:

Mwynhaodd pawb ginio bys a bawd yn ogystal â the, coffi a chacen a oedd yn rhad ac am ddim, a sicrhaodd y lleoliad hygyrch a’r help gyda chludiant fod pawb a oedd am fynychu’n gallu gwneud hynny.

Yr hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wrthym:

“Roeddwn yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnaf – dyna’r tro cyntaf i fi deimlo nad oeddwn yn cael fy nhrosglwyddo o’r naill adran i’r llall. Rwy’n fodlon iawn, iawn.” – Lorna

“Mae wedi bod yn addysgiadol iawn … dwi ddim yn credu y bydd arna i ofn gofyn cwestiynau’n awr. Mae wedi bod yn wych.” – Gail

“Ffordd dda o rwydweithio a siarad am y pethau sy’n fy mhoeni’n bersonol – a sut y gallaf gael ateb iddynt.” – Tracey

Roedd cyfanswm o 36 o gwsmeriaid yn bresennol, a buont yn siarad ag amrywiaeth eang o staff o bob un o wasanaethau ateb, a oedd yn cynnwys staff ym maes eiddo, cymorth, datgarboneiddio, ac ymgysylltu â’r gymuned. Hwn oedd y cyfle cyntaf i rai roi wynebau i enwau, mynegi pryderon neu gael cyngor am faterion megis tasgau atgyweirio, costau ynni cynyddol neu’r angen cynyddol am ddiogelwch digidol.

Dyma bethau eraill a glywsom ganddynt:

“Oherwydd y digwyddiad hwn, byddaf yn gwneud newidiadau yn fy mywyd o ran arbed ynni, ailgylchu, ac ymwneud yn fwy helaeth ag ateb.”

“Cwrdd â phobl, rhannu gwybodaeth werthfawr am les, biliau cyfleustodau a’r gwasanaethau cyffredinol a ddarperir – digwyddiad defnyddiol ac addysgiadol iawn.”

“Roedd yn braf rhoi wynebau i enwau ac roedd yn dda cael gwybod bod help ar gael.”

Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac a rannodd eu profiadau. Mae eich barn yn bwysig, ac rydym yn falch o allu creu cyfleoedd lle gallwn lunio cymorth gwell gyda’n gilydd.

Y digwyddiad nesaf: Os ydych yn frwdfrydig ynglŷn â chydraddoldeb a chynhwysiant, beth am ddod i gyfarfod nesaf ein Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ddydd Iau 12 Mehefin yn Neuadd y Frenhines, Arberth? Bydd yn gyfle gwych i helpu i bennu’r cyfeiriad y mae ateb yn mynd iddo, a sicrhau bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Gallwch ddysgu mwy a chael gwybod sut mae cymryd rhan yma.

Cyhoeddwyd – 23/05/2025