Anifeiliaid anwes

Mae anifeiliaid anwes yn ffynhonnell cysur, cwmni a hapusrwydd. Boed yn gi sy’n eich cadw’n actif neu’n gath sy’n swatio wrth eich ymyl, gall anifeiliaid wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch lles.

Diben yr arweiniad hwn yw eich helpu i fwynhau bod yn berchennog cyfrifol ar anifail anwes. Nid ydym am orfodi rheolau. Rydym am i chi deimlo’n hyderus, teimlo eich bod yn cael cefnogaeth, a theimlo’n rhan o gymuned lle gall pawb fyw’n dda gyda’i gilydd.

Beth sy’n cael ei ystyried yn anifail anwes?

Anifail anwes yw anifail dof a gaiff ei gadw’n bennaf er mwyn cael cwmni, mwynhad neu gefnogaeth emosiynol. Mae enghreifftiau cyffredin o anifeiliaid anwes yn cynnwys:

  • Cŵn
  • Cathod
  • Cwningod
  • Mamaliaid bach megis mochyn cwta neu fochdew
  • Adar (megis byji neu ganeri)
  • Pysgod

Nid yw anifeiliaid sy’n gweithio, da byw neu rywogaethau gwyllt/estron yn anifeiliaid anwes. Os nad ydych yn siŵr a yw eich anifail chi’n anifail anwes, gofynnwch i ni – byddwn yn hapus i roi eglurhad.

 

A ydych yn ystyried cael anifail anwes?

Cyn croesawu anifail anwes i’ch cartref, dylech ystyried y canlynol yn ofalus:

  • Lle: A yw eich cartref yn addas i faint ac anghenion yr anifail?
  • Amser: A oes gennych amser i’w fwydo, ei lanhau a sicrhau ei fod yn cael ymarfer corff?
  • Cost: A allwch fforddio’r bwyd, y biliau milfeddyg, yr yswiriant a phethau hanfodol eraill?
  • Cymdogion: A allai ymddygiad eich anifail anwes (y ffaith ei fod yn cyfarth neu’n crwydro) effeithio ar bobl eraill?
  • Ymrwymiad: Mae anifeiliaid anwes yn byw am flynyddoedd. A ydych yn barod am y cyfrifoldeb hwnnw?

Os byddwch yn dewis cael anifail anwes i hybu eich lles neu’ch iechyd meddwl, rydym am eich helpu i deimlo’n hyderus a gwneud y dewis iawn.

Pryd y dylech roi gwybod i ateb?

Nid oes angen i’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid ofyn am ganiatâd i gael anifail anwes. Dylech gysylltu â ni’n gyntaf:

  • Os ydych yn rhannu mynedfa, cyntedd neu ardd â’ch cymdogion
  • Os yw eich anifail anwes ar restr y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus, neu os yw’n frîd a gaiff ei ystyried yn frîd peryglus
  • Os yw eich anifail anwes wedi ymddwyn yn ymosodol yn y gorffennol neu os yw’n destun rhybudd neu orchymyn cyfreithiol
  • Os hoffech gadw mwy na dau anifail anwes
  • Os ydych yn bwriadu adeiladu cawell, tŷ adar neu loches anifail yn eich gardd
  • Os ydych yn maethu anifeiliaid neu’n gofalu am nifer fawr ohonynt

Byddwn yn eich tywys drwy’r camau i wneud yn siŵr bod eich anifail anwes a’ch cymuned yn gallu cyd-fyw’n hapus â’i gilydd.

 

Cyd-fyw’n dda

Mae bod yn gymydog da’n helpu pawb i fwynhau eu cartrefi. Dylech:

  • Gadw ardal eich anifail anwes yn lân ac yn lanwaith
  • Cadw anifeiliaid anwes dan reolaeth mewn ardaloedd cyffredin neu gyhoeddus
  • Clirio baw eich anifail anwes
  • Osgoi gadael i anifeiliaid anwes grwydro’n rhydd neu darfu ar bobl eraill

Os bydd problemau’n codi, byddwn bob amser yn gweithio gyda chi er mwyn dod o hyd i ateb cyn cymryd camau gweithredu ffurfiol.

Anifeiliaid anwes yn ystod ymweliadau

Pan fydd ein staff neu’n contractwyr yn ymweld â’ch cartref, gofynnwn yn garedig i chi roi anifeiliaid anwes mewn ystafell ar wahân yn ystod yr ymweliad. Nid yw hynny’n golygu nad ydym yn hoffi anifeiliaid, ond rydym am sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel.

Gall hyd yn oed yr anifeiliaid anwes mwyaf cyfeillgar ymddwyn mewn modd annisgwyl mewn sefyllfaoedd newydd, ac yn anffodus rydym wedi cael achosion lle mae aelodau’r tîm wedi cael eu cnoi. Mae rhoi anifeiliaid anwes mewn ystafell ar wahân yn gwarchod ein tîm ac yn helpu i leihau straen ar eich anifail tra bydd unrhyw waith yn cael ei gyflawni.

Diolch am ein helpu i sicrhau bod ymweliadau’n ddiogel ac yn brofiad cadarnhaol i bawb.

 

Cwestiynau cyffredin

  • Faint o anifeiliaid anwes y gallaf eu cael?

  • A allaf gadw anifail anwes mewn fflat neu adeilad a rennir?

  • Beth os yw fy anifail anwes yn hybu fy iechyd meddwl?

  • A oes angen caniatâd arnaf ar gyfer pob math o anifail anwes?

  • Pa anifeiliaid anwes sy’n anaddas?

  • A allaf adeiladu cawell neu loches?

  • Beth os bydd rhywun yn cwyno am fy anifail anwes?

  • A allaf faethu anifeiliaid neu ofalu dros dro amdanynt?

  • Beth os oes angen help arnaf i ofalu am fy anifail anwes?

Angen cyngor?

Ydych chi’n ystyried cael anifail anwes? Ddim yn siŵr a yw eich cartref yn addas? Yn awyddus i sgwrsio am eich anghenion o ran cymorth?

Cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai neu â’n Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01437 763688 – rydym yma i chi.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →