Ydych chi’n ystyried rhedeg busnes o’ch cartref? P’un a ydych yn dechrau menter fach neu’n ehangu menter sy’n bodoli’n barod, mae’n bwysig deall pa ganiatâd y bydd ei angen a deall eich cyfrifoldebau.
Os ydych yn gwsmer i ateb ac yn bwriadu rhedeg busnes o’ch cartref, bydd yn rhaid i chi wneud cais am ganiatâd. Bydd angen i ni sicrhau na fydd eich busnes:
Cyn dechrau eich busnes, bydd angen i chi ystyried:
I wneud cais am ganiatâd i redeg busnes o’ch cartref a ddarperir gan ateb, llenwch ein ffurflen gais ar-lein:
Sicrhewch fod y ffurflen yn cael ei dychwelyd gyda’r holl ddogfennau ategol perthnasol – megis dyfynbrisiau ar gyfer yswiriant busnes.
Wedi i chi gyflwyno’r ffurflen, bydd ein tîm yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth.
Angen mwy o gyngor? Cysylltwch â ni drwy anfon ebost i [email protected] a byddwn yn falch o’ch helpu!
Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected] →
Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →
Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →