Dewch i gyfarfod nesaf ein Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant er mwyn helpu i lywio dyfodol ateb

Hoffem wahodd ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid i ymuno â chyfarfod nesaf ein Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

📅 Dydd Iau 12 Mehefin 2025
🕑 2:00 i 4:00pm
📍 Neuadd y Frenhines, Arberth

Mae’r grŵp hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o’n cymunedau i bennu cyfeiriad ateb, herio ein meddylfryd a sicrhau bod ein dull o weithredu’n adlewyrchu anghenion amrywiol y sawl yr ydym yn eu gwasanaethu.

Wrth i ni nesáu at ben-blwydd y grŵp yn ddwy oed, bydd y cyfarfod hwn yn gyfle gwych i fyfyrio ynghylch ein siwrnai mor belled a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Dathlu ein heffaith a’n cyflawniadau ers i’r grŵp gael ei lansio
  • Dysgu o’n profiadau ac adnabod ffyrdd y gallwn wella
  • Adolygu ein Dogfen Ymrwymo i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n Cynllun Cyflawni
  • Pennu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Rydym yn gwybod bod gwella ein gwasanaethau a’n heffeithiolrwydd yn dibynnu ar gynnwys y bobl sy’n eu defnyddio. P’un a ydych wedi ymuno â ni o’r blaen neu’n ystyried dod am y tro cyntaf, mae eich barn yn bwysig. Bydd cyfraniadau pawb yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynhwysol ac yn groesawgar a’u bod yn adlewyrchu’n wirioneddol y cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw.

 

Angen help i ddod i’r cyfarfod?

Os yw cludiant yn rhwystr, gall ein cyfeillion dibynadwy yng Nghymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro eich helpu i gyrraedd y cyfarfod.

Ewch i www.pacto.org.uk, ffoniwch 01437 701123 neu anfonwch ebost i [email protected] i drefnu eich cludiant yn uniongyrchol gyda’r Gymdeithas.

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol – cadwch y dyddiadau!

Os na allwch ddod i’r cyfarfod ym mis Mehefin, byddem yn hoffi o hyd pe baech yn cymryd rhan. Dyma ddyddiadau cyfarfodydd eraill sydd i ddod o’n Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

  • 📅 Dydd Mercher 1 Hydref 2025, 2:00 i 4:00pm – y lleoliad i’w gadarnhau
  • 📅 Dydd Mercher 25 Mawrth 2026, 2:00 i 4:00pm – y lleoliad i’w gadarnhau

Rhowch wybod i ni os byddwch yn dod!

I’n helpu i gynllunio ar gyfer y sesiwn (a sicrhau bod gennym ddigon o de, coffi a bisgedi!), byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni eich bod yn dod.

📧 [email protected] 

 01437 774766

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Cyhoeddwyd: 22/05/2025