Monthly Archives: July 2025

Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid 2025 (TPAS Cymru) 

Dyma gyfle gwych i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sydd hefyd yn byw mewn tai cymdeithasol, ac i drafod a dysgu am bynciau llosg sy’n bwysig i chi. Bydd y lleoedd cyntaf yn mynd i gwsmeriaid ateb sydd erioed wedi bod, ond gwnewch gais i ni beth bynnag, os oes gennych […]

Cartrefi fforddiadwy newydd wedi’u cwblhau yn Simpsons Cross

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod pedwar cartref fforddiadwy newydd wedi’u cwblhau yn Simpsons Cross. Mae’r cartrefi wedi dod i feddiant ateb yn rhan o ddatblygiad preifat ehangach a gyflawnwyd gan CAEN Pembrokeshire Ltd. Mae’r fflatiau hyn, sydd o ansawdd uchel, wedi’u sicrhau trwy gytundeb cynllunio Adran 106. Byddant ar gael fel cartrefi rhent cymdeithasol, a […]

CANLYNIADAU!

Dyma: (1) Adolygiad Ymgysylltu â Chwsmeriaid blynyddol (2) Adroddiad Diweddaru 6-Mis Chwefror (3) Adroddiad Glanhau Ardaloedd Cyffredin 2025 Mae’r adroddiadau hyn yn datgelu’r hyn a ddywedoch chi am wasanaethau ateb. Maent hefyd yn dangos ymateb ateb i’ch adborth a’r gwaith a wnaed gan ateb i wneud y gwelliannau angenrheidiol, yn seiliedig ar yr hyn a […]

Taith Bwrdd ateb yn dangos effaith atebion gwell o ran byw ar draws y gorllewin

Yn ddiweddar, bu aelodau o Fwrdd Grŵp ateb ar daith o amgylch nifer o’n cartrefi a’n cymunedau ledled Sir Benfro. O ystadau sydd wedi’u hen sefydlu i ddatblygiadau mwy newydd a llety byw’n annibynnol, roedd y daith yn gyfle gwerthfawr i gysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r tîm a chwsmeriaid – a gweld ein diben ar waith. […]

Cyfle i chi ddweud eich dweud – ymunwch â Phwyllgor Cwsmeriaid newydd ateb!

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein Pwyllgor Cwsmeriaid newydd sbon – ac mae angen cwsmeriaid tebyg i chi arnom o ateb i’n helpu i sicrhau ei fod yn llwyddiant! Yn ateb, rydym yn credu bod byw’n well yn dechrau â phenderfyniadau gwell. Dyna pam yr ydym yn creu ffyrdd newydd i gwsmeriaid […]

Cysylltu â’n cymuned yn Cromwell Heights a Marble Hall Road

Ddoe, bu aelodau o’n tîm yn mynd am dro o gwmpas Cromwell Heights a Marble Hall Road ac yn casglu sbwriel yno er mwyn helpu i gryfhau cysylltiadau â chwsmeriaid a deall yr amgylchedd lleol yn well. Ymunodd Jess, ein Cydlynydd Tai sydd wedi bod yn cynorthwyo’r ardal ers 2022, â’r ymweliad er mwyn ymgysylltu […]

ateb yn dathlu ennill Gwobr TPAS Cymru am gynnwys cwsmeriaid

Mae’n bleser mawr gennym rannu’r newyddion bod ateb wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Arfer Da 2025 TPAS Cymru am Gynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau. Gorffennodd ateb ymhlith y tri uchaf – ac mae’r diolch am hynny i bron 300 o’n cwsmeriaid am eu cyfraniad anhygoel. Mae’r gydnabyddiaeth yn dathlu’r gwaith cydweithredol a wnaed wrth […]

Torri tir yn The Croft, Llangwm – er mwyn darparu cartrefi newydd ar gyfer y gymuned

Yr wythnos hon, gwnaethom nodi dechrau’r gwaith adeiladu yn The Croft, sef ein datblygiad newydd yng nghanol Llangwm. Roedd yn braf croesawu amrywiaeth o wynebau cyfarwydd ac wynebau newydd i’r safle wrth i ni lansio’r prosiect pwysig hwn yn swyddogol. Daeth cydweithwyr o bob rhan o Grŵp ateb a Mill Bay Homes ynghyd yng nghwmni […]