Category Archives: Uncategorized @cy

Diwrnod gwych arall o ddod â phobl ynghyd yn Noc Penfro

Ddydd Mercher 1 Ebrill, gwnaethom groesawu dros 140 o gwsmeriaid – a oedd yn cynnwys llawer o deuluoedd a phlant – i ddigwyddiad cymunedol gwych yn The Cricketers yn Imble Lane. Roedd llawer o bobl yn bresennol o West Merrion Drive, Boundary View, Cuckoo Wood a Spring View, felly roedd yn gyfle heb ei ail […]

Cynulliad Blynyddol i Gwsmeriaid 2026

Mae’n ddrwg gennym ond mae’r digwyddiad hwn bellach yn llawn. Os hoffech gael y ffurflen gofrestru hwn mewn unrhyw fformat neu iaith arall, mae croesoi chi gysylltu ag ateb.   Theatr Torch, Aberdaugleddau SA73 2BU 12/05/26 Prif sesiwn: 2pm – 5pm Bwffe: 5pm  Sesiwn galw heibio: 5pm – 7pm   Dyma wahoddiad i chi ymuno […]

Prydau bwyd cymunedol am ddim yn dod i Oriel VC yn Noc Penfro

Os ydych yn byw ger Oriel VC yn Noc Penfro, mae yna gyfle gwych i chi fwynhau ychydig o fwyd iach am ddim sydd wedi’i goginio yn ffres a chysylltu â phobl eraill yn eich cymuned. Bydd Oriel VC yn cynnig prydau bwyd iach, cymunedol, wythnosol am ddim bob dydd Mercher am chwe wythnos, gan […]

Digwyddiad Cymunedol

Bydd ateb yn cynnal digwyddiad cymunedol i bobl o bob oed. Dyma’r manylion: Lleoliad: The Cricketers, Doc Penfro SA72 6PL Dyddiad: Dydd Mercher 1 Ebrill 2026 Amser: 3pm – 6pm Digwyddiad a gynhelir dan do ac yn yr awyr agored Dyma gyfle i gwsmeriaid ateb, yn enwedig cwsmeriaid yn ardal Imble Lane, Doc Penfro, gwrdd […]

Cyflwyno ein Cyfarwyddwr Gweithredol newydd ar gyfer Datblygu ac Asedau

Mae’n bleser mawr gennym groesawu Adam Roberts i ateb, sef ein Cyfarwyddwr Gweithredol newydd ar gyfer Datblygu ac Asedau. Mae Adam yn ymuno â ni o Grŵp Codi lle bu’n gweithio fel Pennaeth Datblygu. Mae’n dod â pheth wmbredd o brofiad gydag e’, a fydd yn ein helpu i barhau i greu atebion gwell o ran […]

Cadw ein cymunedau’n lân ac yn daclus

Mae pob un ohonom yn awyddus i fyw mewn mannau sy’n teimlo yn lân, yn ddiogel ac yn ddymunol. Caiff mannau a rennir, gerddi ac ardaloedd cyffredin eu darparu i bawb eu mwynhau, ond mae sicrhau eu bod yn parhau felly’n golygu bod angen i bob un ohonom ofalu amdanynt.  Mae pob cartref yn gyfrifol am ei […]

Disgyblion lleol yn ymweld â The Croft yn Llangwm

Roeddem yn falch iawn o groesawu disgyblion o Ysgol Bro Cleddau gerllaw a fu’n ymweld â’n datblygiad yn Llangwm yn ddiweddar, sef The Croft. Ymunodd y grŵp â ni ar y safle i fynd am dro o gwmpas y datblygiad gyda’n tîm a’n contractwr Morganstone, sy’n adeiladu’r cartrefi newydd. Yn ystod yr ymweliad, bu modd […]

Diwrnod Cwrdd â’r Contractwr ar gyfer tendr Gwaith Ôl-osod ateb

Yr wythnos hon, gwnaethom gynnal Diwrnod Cwrdd â’r Contractwr yn rhan o’n tendr newydd ar gyfer Gwaith Ôl-osod ateb, ac roedd yn braf gweld cymaint o sefydliadau yn yr ystafell. Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd y Frenhines yn Arberth, â chontractwyr ynghyd a oedd â diddordeb mewn cyflawni gwaith ôl-osod a gwaith wedi’i […]