Ar 20 a 21 Awst 2025, roedd presenoldeb tîm ateb yn Sioe Sir Benfro yn amlwg, a chawsom ddeuddydd gwych!
Roedd ein tîm yn y Sioe yn cynnwys aelodau o staff o bob rhan o ateb: Jess, Jo, Lee a Clayton o’r Tîm Tai, Huw ac Ed o’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Mel a Georgina o’r Tîm Byw’n Annibynnol, Sue o’r Tîm Datblygu Cymunedol, a Tom a Hayley o’r Tîm Cyfathrebu. Hoffem ddiolch yn arbennig hefyd i’n cwsmeriaid, Tony a Peter, a ymunodd â ni er mwyn helpu i greu atebion gwell o ran byw.
Roedd y Sioe yn gyfle ardderchog i ni weld ein cwsmeriaid, cwrdd ag wynebau newydd a sgwrsio â phobl a oedd yn chwilfrydig ynghylch yr hyn y mae ateb yn ei wneud. Yn sydyn, trodd ein stondin yn ganolbwynt llawer o hwyl a chwerthin, ac roedd gennym ddigon o weithgareddau i ddifyrru pawb.
Buodd y sawl a ymwelodd â ni’n rhoi prawf ar eu gwybodaeth drwy chwarae ein gêm Uwch neu Is, lle’r oedd angen dyfalu faint o gartrefi sydd gan ateb mewn gwahanol leoliadau. Arweiniodd rhai o’r atebion at syndod gwirioneddol ac at sgyrsiau gwych — meddai un ymwelydd, “Doeddwn i ddim yn gwybod bod gennych gymaint o dai ym Mhenfro; mae mor braf gweld hynny.”
Roedd ein cystadleuaeth Dyfalu Enw’r Tedi yn weithgaredd poblogaidd arall, a cheisiodd llu o ymwelwyr ddyfalu’r enw er mwyn cael cyfle i ennill un o’n teganau meddal. Llongyfarchiadau unwaith eto i’n henillwyr!
Gwnaeth ein her Dyfalu Cod y Sêff Allweddi wneud i bawb grafu eu pen, a rhoddodd pobl o bob oed gynnig ar ddatrys y cod er mwyn cael cyfle i ennill taleb gwerth £20.
Roed y tŵr Jenga enfawr yn ffefryn arall. Roedd unrhyw un a oedd yn llwyddo i atal y tŵr rhag disgyn yn cael siocled yn wobr. A chawsom hyd yn oed ymweliad annisgwyl gan ddeinosor a oedd yn crwydro’r maes, a fydd yn aros yn y cof am dipyn!
Yn goron ar yr holl hwyl oedd y ffaith i ni gael rhywfaint o gydnabyddiaeth hefyd. Roeddem yn falch o gael ein henwebu ar gyfer y wobr i’r Stondin Orau nad yw’n Stondin Amaethyddol, ac roeddem wrth ein bodd o ennill y Gil Wobr.
Diolch i bawb a alwodd heibio i ddweud helô. Gwnaethoch sicrhau bod Sioe Sir Benfro yn un o uchafbwyntiau’r haf i ni. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd y flwyddyn nesaf gyda mwy fyth o weithgareddau ac i gael rhagor o sgyrsiau a digonedd o hwyl!