Dyma gyfle gwych i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sydd hefyd yn byw mewn tai cymdeithasol, ac i drafod a dysgu am bynciau llosg sy’n bwysig i chi.
Bydd y lleoedd cyntaf yn mynd i gwsmeriaid ateb sydd erioed wedi bod, ond gwnewch gais i ni beth bynnag, os oes gennych ddiddordeb.
Eleni:
- Yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod
- Ar 12 – 13 Tachwedd 2025
- Opsiwn 1 neu 2 ddiwrnod
- Opsiwn i aros am 1 neu 2 noson
- ateb yn talu’r costau i gyd, gan gynnwys costau gofal a chludiant
- Drwy fynychu’r gynhadledd hon gan TPAS, byddech yn cynrychioli ateb a byddai disgwyl i chi gasglu gwybodaeth y gallech ddod â hi’n ôl i ateb er mwyn helpu cwsmeriaid eraill ateb. Byddech yn cael llawer o help gan ateb i gyflawni’r dasg hon.
Darganfod mwy am y cynhadledd yma
Ddim yn siŵr a ydych am fynychu? Dyma farn Anne am gynhadledd y llynedd.
“Os oes unrhyw un yn ystyried mynd i Gynhadledd TPAS Cymru ym mis Tachwedd 2025, mae’n wir yn gyfle gwych. Gallwch ddewis pa weithdai sydd o ddiddordeb i chi, ac maent i gyd yn cael eu cynnal mewn grwpiau bach. Roedd yn ddiddorol, yn addysgiadol ac yn hwyl. Fe wnes i fwynhau cwrdd â rhai o denantiaid eraill ateb, a phobl eraill sy’n rhentu cartrefi gan gymdeithasau tai ledled Cymru. Mae’r lleoliad yn hyfryd, ac roedd y bwyd gwych yn eisin ar y gacen.”
(Anne Denison a fynychodd Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid 2023, a gynhaliwyd gan TPAS Cymru)
Dim ond nifer gyfyngedig o ystafelloedd sydd gan Westy’r Metropole, ac o blith y rheini mae nifer lai fyth yn addas i bobl ag anableddau. Mae’r ddwy ystafell sy’n hollol hygyrch yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, felly rhoddir blaenoriaeth i gynrychiolwyr y mae angen y cyfleusterau hynny arnynt.
*Felly, cofiwch anfon ebost i [email protected] neu ffonio Ali Evans ar 01437 774766 / 07500 446611.
Cyhoeddwyd 31/07/25