Ni ddylai neb fyth orfod byw mewn ofn oherwydd pwy ydyn nhw neu oherwydd yr hyn y maent yn ei gredu. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu gartref ac yn eu cymuned.
Yn ateb, rydym wedi ymrwymo o hyd i hybu cydraddoldeb, parch a dealltwriaeth rhwng pob cymuned. Byddwn yn parhau i greu mannau lle gall pobl fyw a ffynnu’n ddiogel gydag urddas.
Nod DNA ateb yw anelu at ddiben cyffredin, gwerthoedd ac ymddiriedaeth, ac nid ydym yn barod i oddef unrhyw wahaniaethu nac unrhyw aflonyddu.

Os hoffech chi neu rywrai yr ydych yn eu hadnabod gael cyngor, neu os oes angen i chi neu rywrai yr ydych yn eu hadnabod roi gwybod am unrhyw beth, mae cymorth ar gael:
Rhoi gwybod am droseddau casineb:
Os byddwch yn profi neu’n gweld trosedd gasineb, cysylltwch â’r heddlu drwy ffonio 101 (neu 999 mewn argyfwng).
Yn ogystal, gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw drwy ‘Riportio Trosedd Gasineb Cymru’.
Cymorth emosiynol:
Y Samariaid – cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim bob awr o’r dydd a’r nos drwy ffonio 116 123 neu drwy fynd i samaritans.org
Victim Support Cymru – Help i unrhyw rai y mae troseddu’n effeithio arnynt, drwy ffonio 0808 1689 111 neu fynd i victimsupport.org.uk
Cysylltu â ni:
Os oes angen cymorth arnoch chi neu ar unrhyw rai yr ydych yn eu hadnabod, neu os hoffech chi neu unrhyw rai yr ydych yn eu hadnabod siarad, mae croeso i chi gysylltu â ni neu â’ch Cydlynydd Tai.
Anfonwch ebost i: [email protected]
Ffoniwch: 0800 854 568
Rydym yma i wrando a helpu pryd bynnag y gallwn.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i greu cymunedau mwy diogel, caredig a chynhwysol – oherwydd mae atebion gwell o ran byw’n cychwyn gyda lle y gall pob un ohonom ei alw’n gartref.
