Rydym yn gweithio ar fenter newydd i sicrhau bod mwy o’n cwsmeriaid yn teimlo’n hyderus yn y byd digidol, ac yn teimlo eu bod wedi’u cysylltu ag ef ac wedi’u cynnwys ynddo.
Rhwng mis Gorffennaf 2025 a mis Mawrth 2026, byddwn yn cynnal prosiect i gynorthwyo cwsmeriaid a allai fod yn ei chael yn anodd cael gafael ar yr adnoddau neu feithrin y sgiliau neu’r hyder sy’n ofynnol i ymgysylltu â gwasanaethau digidol. Gallai gwasanaethau o’r fath amrywio o roi gwybod am yr angen am waith atgyweirio i drefnu apwyntiad gyda meddyg teulu.
P’un a yw’n golygu cael y ddyfais gywir, cael cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd neu wybod ble mae dechrau arni, nod y prosiect hwn yw helpu cwsmeriaid i gyrraedd yr hyn a elwir yn Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. Y nod yw helpu pobl i deimlo manteision dyddiol bod â chysylltiadau digidol.
Pam y mae’n bwysig
Mae byw mewn ardal wledig yn golygu mai ar-lein y caiff pobl fynediad gan amlaf erbyn hyn i lawer o wasanaethau hanfodol, sy’n cynnwys cael gofal iechyd, cael budd-daliadau ac ymgeisio am swyddi. Ond mae allgáu digidol yn dal yn rhwystr i rai o’n cwsmeriaid, ac rydym yn gwybod bod hynny’n gallu effeithio ar les, annibyniaeth a diogelwch ariannol.
Gall gwella mynediad digidol wneud gwahaniaeth go iawn. Gall cwsmeriaid deimlo bod ganddynt gysylltiadau gwell â’u teulu, eu ffrindiau a’u cymuned. Gallant reoli eu materion ariannol, eu hiechyd a’u tasgau dyddiol yn fwy annibynnol, a gallant feithrin hyder i ddefnyddio adnoddau digidol sy’n ategu eu ffordd o fyw.
Cymorth wedi’i deilwra i’r sawl y mae arnynt ei angen fwyaf
Byddwn yn adnabod cwsmeriaid a allai elwa, drwy gael atgyfeiriadau gan ein Cydlynwyr Tai a Byw’n Annibynnol, drwy hysbysebu’n lleol a thrwy siarad â phobl wyneb yn wyneb. Bydd pob cwsmer yn cael cymorth ar sail eu sefyllfa unigol nhw. Gallai hynny gynnwys cael help i fynd ar-lein, cael mynediad i ddyfais neu gael hyfforddiant anffurfiol un i un.
Ar ôl i rywun gael ei atgyfeirio, byddwn yn cynnal arolwg byr ac archwiliad lles er mwyn deall anghenion presennol yr unigolyn. Yna, byddwn yn llunio pecyn cymorth. Gallai hynny olygu darparu llechen neu ffôn symudol, uned MiFi i wella cysylltedd, a help wedi’i deilwra i feithrin hyder digidol. At hynny, bydd cwsmeriaid yn cael cymorth i gofrestru gyda Fy Nghyfrif ateb, sef ein porth ar-lein sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl roi gwybod am yr angen am waith atgyweirio, gwirio eu cyfrif rhent a rheoli gwybodaeth sy’n ymwneud â’u contract meddiannaeth.
Ryw fis neu ddau yn ddiweddarach, byddwn yn galw eto i weld sut hwyl y mae’r cwsmeriaid yn ei chael arni. Byddwn yn gofyn pa mor hyderus y maent yn teimlo wrth ddefnyddio adnoddau digidol, a ydynt wedi sylwi ar unrhyw newidiadau i’w lles, a pha fathau o wasanaethau y maent yn gallu cael mynediad iddynt erbyn hyn. Gallai’r gwasanaethau dan sylw gynnwys WhatsApp a chyfryngau cymdeithasol, bancio ar-lein, gwasanaethau’r GIG neu gymorth o ran iechyd meddwl.
Beth yr ydym yn gobeithio ei gyflawni
Yn ystod y prosiect naw mis, byddwn yn ceisio gweithio gyda chymaint o gwsmeriaid ag sy’n bosibl er mwyn gwella mynediad digidol a lles cyffredinol.
Mae’r manteision yn bellgyrhaeddol. Gall cynhwysiant digidol helpu i leihau unigrwydd, gwella mynediad i wasanaethau hanfodol, a chynnig cyfleoedd i ddysgu, cael cyflogaeth ac arbed arian. Mae hefyd yn hybu’r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau, drwy annog cwsmeriaid i ddefnyddio Fy Nghyfrif ateb a thrwy roi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt, ac mae ar yr un pryd yn galluogi ein timau i ganolbwyntio ar gymorth sy’n fwy cymhleth.
Beth yr ydym yn gobeithio ei gyflawni
Yn ystod y prosiect naw mis, byddwn yn ceisio gweithio gyda chymaint o gwsmeriaid ag sy’n bosibl er mwyn gwella mynediad digidol a lles cyffredinol.
Mae’r manteision yn bellgyrhaeddol. Gall cynhwysiant digidol helpu i leihau unigrwydd, gwella mynediad i wasanaethau hanfodol, a chynnig cyfleoedd i ddysgu, cael cyflogaeth ac arbed arian. Mae hefyd yn hybu’r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau, drwy annog cwsmeriaid i ddefnyddio Fy Nghyfrif ateb a thrwy roi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt, ac mae ar yr un pryd yn galluogi ein timau i ganolbwyntio ar gymorth sy’n fwy cymhleth.