Cynhaliodd y Tîm Atebion o ran Tai, a’r Tîm Ymgysylltu ateb, ddigwyddiad cymunedol ar nos Lun, heulog, ddiweddar yn Stover Avenue, Sageston. Roedd amryw aelodau o staff ateb yno i ryngweithio â chwsmeriaid, gan gynnwys Catherine Morse i ymdrin â materion yn ymwneud ag ynni cwsmeriaid; Sue Mackie i ymdrin â gwaith datblygu cymunedol; Ali Evans, i ymdrin â gwaith ymgysylltu â chwsmeriaid; a’r Tîm Atebion o ran Tai i ymdrin â phopeth arall. Cawsom ymweliad gan Mark Lewis hefyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, a roddodd o’i amser i sgwrsio â phawb.
Bu pawb wrthi’n brysur drwy gydol y digwyddiad yn gweini diodydd, ac aeth rhai o aelodau’r Tîm Atebion o ran Tai ati i guro ar ddrysau er mwyn ceisio cynnwys cwsmeriaid a oedd wedi dewis peidio â dod i’r digwyddiad bywiog.
Gwrandawodd aelodau’r Tîm Atebion o ran Tai ar gwsmeriaid a fu’n sôn am amrywiaeth o faterion a oedd yn cynnwys llygod mawr, newidiadau i gontractau cynnal a chadw tir, problemau parcio, problemau yn y gymdogaeth, a’u hamgylchiadau o ran cyflogaeth. Roedd rhai cwsmeriaid yn falch o wahodd aelodau’r tîm i’w gardd gefn i ddangos gwelliannau blaengar, a oedd yn cynnwys troi’r siediau o amgylch, defnyddio ffensys i rannu gerddi, a defnyddio goleuadau solar er mwyn gallu gweld yn well yn y nos. Roedd pynciau eraill a drafodwyd ag amryw gwsmeriaid yn cynnwys cŵn, cerddoriaeth fyw, traffig a gwahanol fathau o bitsas. Cwblhawyd yr arolygon Prisiau Rhent a Thaliadau Gwasanaeth a daeth dau gwsmer at aelodau’r tîm i fynegi awydd i sefydlu a rhedeg grŵp cymunedol a fyddai’n ei gynnal ei hun.
Roedd y partneriaid lleol a gefnogodd y digwyddiad yn cynnwys:
- Partneriaeth Fwyd Sir Benfro sy’n ceisio gwneud rhwydweithiau bwyd lleol yn fwy gwydn, gan greu system leol sy’n fwy cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael â’r problemau sydd wrth wraidd tlodi bwyd.
- Tîm Allgymorth Hywel Dda – Hybu pob agwedd ar iechyd.
- Cynllunio Gofal yn y Dyfodol – Cynllunio diwedd oes i bawb (a oedd yn cynnwys gweithgaredd addas iawn ar gyfer noson braf: dewis hwyaden!).
- Gwaith yn yr Arfaeth – Cyngor i bawb ynghylch gyrfaoedd.
Gosodwyd arwydd dwbl mawr wrth y fynedfa i’r ddwy ystâd (The Corn Fields a Stover Avenue) i hysbysebu, yn Gymraeg ac yn Saesneg, y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan ateb a oedd yn agored i bawb.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:
- Darparodd cwmni buddiant cymunedol Silbers weithgareddau gwaith coed i bobl o bob oed a gallu, a bu’r plant yn gwneud cylchoedd allweddi y gallent fynd â nhw adref gyda nhw.
- Roedd castell neidio Funtimes Bouncy Castles yn boblogaidd iawn yn ôl yr arfer.
- Darparwyd bwyd blasus iawn gan Pembrokeshire Woodfired Pizzas, sydd â sgôr o 5 am hylendid bwyd ac sy’n ystyried anghenion pobl ag anoddefiadau bwyd.
- Daeth y Bartneriaeth Fwyd â map bwyd bwyta’n iach, lle gallai pobl ddosbarthu bwydydd yn wahanol fathau ac ystyried eu gwerth a’u cyfraniad i iechyd.
Daeth 54 o oedolion a phlant i’r digwyddiad, o Stover Avenue yn bennaf, ond daeth un teulu o Rhiannon House yn Sir Benfro, un teulu o Hwlffordd ac o leiaf ddau deulu o The Cornfields, Sageston.