Cartrefi fforddiadwy newydd wedi’u cwblhau yn Simpsons Cross

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod pedwar cartref fforddiadwy newydd wedi’u cwblhau yn Simpsons Cross. Mae’r cartrefi wedi dod i feddiant ateb yn rhan o ddatblygiad preifat ehangach a gyflawnwyd gan CAEN Pembrokeshire Ltd.

Mae’r fflatiau hyn, sydd o ansawdd uchel, wedi’u sicrhau trwy gytundeb cynllunio Adran 106. Byddant ar gael fel cartrefi rhent cymdeithasol, a fydd yn helpu i ddiwallu’r angen am dai yn lleol ac yn cynnig cyfle i gwsmeriaid fyw mewn cymuned dawel, wledig yn y gorllewin.

Mae’r cyfle i brynu cartrefi Adran 106 yn werthfawr i ateb, oherwydd ei fod yn ein helpu i amrywio ein stoc o dai. Mae’n ein galluogi i gynnig mwy o gartrefi cymdeithasol mewn gwahanol rannau o’r sir, gan gynnwys ar ddatblygiadau newydd sy’n dod â chymysgedd o gymunedau ynghyd.

Hoffem ddiolch i CAEN Pembrokeshire Ltd am weithio gyda ni ar y cynllun hwn, ac edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid i’w cartrefi newydd.

Os oes gan unrhyw ddatblygwyr preifat gynlluniau y mae gofynion Adran 106 ar gyfer tai fforddiadwy ynghlwm wrthynt, byddai ateb yn croesawu’r cyfle i drafod y gofynion hynny cyn gynted ag sy’n bosibl ac i weithio mewn partneriaeth â chi i gyflawni’r cynllun yn llwyddiannus

Cyhoeddwyd: 24/07/2025