Mae ateb yn cynnal Sesiwn Drafod i Gwsmeriaid yn eich ardal. Nod y sesiwn yw trafod materion sydd o’r pwys mwyaf i gwsmeriaid ac sy’n effeithio ar lawer ohonynt, er enghraifft pethau sy’n digwydd yn eich stryd, eich bloc o fflatiau neu ar draws ateb (nid yw’n sefyllfa lle gallwn ymdrin â phroblemau unigol), yn ogystal â rhoi newyddion ateb i chi.
Mewn awyrgylch hamddenol bydd staff allweddol ateb, gan gynnwys eich Cydlynydd Tai, ar gael i drafod materion â chi a helpu i ddod o hyd i atebion.
Mae’r sesiwn yn agored i holl gwsmeriaid ateb, yn enwedig y rhai sy’n byw o fewn 10 milltir i Dyddewi.
Diben: Fel y gallwn wella ein gwasanaethau i chi.
Dyddiad: 26/02/26
Amser: 12pm – 3pm
Lleoliad: Oriel y Parc, Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Stryd Fawr, Tyddewi SA62 6NW
Lluniaeth: Cinio ysgafn am ddim a diodydd
Dylech lenwi’r FFURFLEN GAIS hon erbyn 20/02/26 i sicrhau eich lle.
Cysylltwch ag Ali Evans i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]
Mae croeso i chi alw heibio i’r sesiwn i leisio eich barn
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni
