Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein Pwyllgor Cwsmeriaid newydd sbon – ac mae angen cwsmeriaid tebyg i chi arnom o ateb i’n helpu i sicrhau ei fod yn llwyddiant!
Yn ateb, rydym yn credu bod byw’n well yn dechrau â phenderfyniadau gwell. Dyna pam yr ydym yn creu ffyrdd newydd i gwsmeriaid allu cyfrannu’n uniongyrchol at lunio ein gwasanaethau ac at ddylanwadu ar y penderfyniadau sy’n bwysig.
Beth yw’r Pwyllgor Cwsmeriaid?
Bydd y Pwyllgor Cwsmeriaid yn cydweithio’n agos â’n Bwrdd i sicrhau bod lleisiau, profiadau a syniadau cwsmeriaid yn cael eu clywed, ac y gweithredir arnynt. Bydd aelodau’r Pwyllgor yn helpu i lunio polisïau allweddol, adolygu perfformiad gwasanaethau, a mynegi barn am sut yr ydym yn darparu’r pethau sydd bwysicaf i’n cymunedau.
P’un a ydych wedi cymryd rhan yn weithredol o’r blaen neu’ch bod yn hollol newydd i’r math hwn o rôl – os yw eich cymuned yn agos at eich calon a’ch bod am wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Pam ymuno?
Drwy ymuno â’r Pwyllgor Cwsmeriaid, byddwch:
- ✅ Yn helpu i lywio gwasanaethau a phenderfyniadau ateb ar gyfer y dyfodol
- ✅ Yn cynrychioli eich cyd-gwsmeriaid a’ch cymunedau
- ✅ Yn hybu eich hyder ac yn datblygu sgiliau newydd
- ✅ Yn cael £50 am bob cyfarfod ffurfiol y byddwch yn ei fynychu
- ✅ Yn cael mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd o ran datblygiad personol
- ✅ Yn cael costau teithio am fynd i hyfforddiant a digwyddiadau.
Byddwch yn mynychu hyd at bedwar cyfarfod y flwyddyn, yn ogystal â chyfleoedd cyffrous eraill i gymryd rhan mewn digwyddiadau i gwsmeriaid a gweithgareddau ar lefel y Bwrdd.
Sut mae ymgeisio
Mae’n hawdd! I ymgeisio, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw anfon datganiad byr atom (hyd at un ochr dalen A4) sy’n ateb y tri chwestiwn canlynol:
- Beth wnaeth eich cymell i ymgeisio i fod ar y Pwyllgor?
- Sut y byddech yn cynrychioli barn cwsmeriaid ateb?
- Pa sgiliau neu brofiadau y byddech yn eu cyfrannu i’r Pwyllgor?
Dylech anfon eich atebion drwy ebost i [email protected] erbyn dydd Llun 31 Gorffennaf 2025 (9:30am).
👉 Mae manylion llawn am y Pwyllgor a’r hyn y mae’n ei olygu i’w gweld ym Mhecyn Recriwtio’r Pwyllgor Cwsmeriaid yma:
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fydd y dyddiad cau wedi pasio, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud a ydych wedi cael eich gwahodd neu beidio i gyfweliad anffurfiol a gynhelir yn ystod yr wythnos a fydd yn cychwyn ddydd Llun 18 Awst 2025.
Peidiwch â phoeni – unig ddiben y cyfweliad yw rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod chi yn well a rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau i ni. Rydym am i’r broses fod yn groesawgar ac yn gefnogol.
Mae barn pawb yn bwysig
Rydym yn awyddus i glywed gan gwsmeriaid o bob oed a chefndir sydd wedi cael pob math o brofiadau. P’un a ydych wedi defnyddio ein gwasanaethau’n ddiweddar neu yn y gorffennol, gallai eich safbwynt ein helpu i wella’r hyn a wnawn ar gyfer miloedd o bobl ledled y gorllewin.