Cysylltu â’n cymuned yn Cromwell Heights a Marble Hall Road

Ddoe, bu aelodau o’n tîm yn mynd am dro o gwmpas Cromwell Heights a Marble Hall Road ac yn casglu sbwriel yno er mwyn helpu i gryfhau cysylltiadau â chwsmeriaid a deall yr amgylchedd lleol yn well.

Ymunodd Jess, ein Cydlynydd Tai sydd wedi bod yn cynorthwyo’r ardal ers 2022, â’r ymweliad er mwyn ymgysylltu â chwsmeriaid, gwrando ar eu pryderon a pharhau i feithrin y cydberthnasau hollbwysig hynny.

Ymunodd Katie, ein Rheolwr Atebion o ran Tai newydd, â’r tîm hefyd er mwyn achub ar y cyfle i siarad â chwsmeriaid a chlywed yn uniongyrchol ganddynt am rai o’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Tra oedd y sgyrsiau hynny’n digwydd roedd Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, wrth law i gynnig cymorth digidol un i un i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru gyda Fy Nghyfrif ateb eto ac nad ydynt wedi rhoi cyfeiriad ebost i ni. Esboniodd Andrew fanteision cysylltu â’r we, a bu’n helpu cwsmeriaid i gymryd y cam cyntaf.

Yn y cyfamser, torchodd tîm ehangach o gydweithwyr yn ateb eu llewys er mwyn casglu sbwriel o ardaloedd cyffredin a’r maes parcio, gan nodi unrhyw dasgau atgyweirio neu welliannau yr oedd angen i’n timau eiddo eu cyflawni.

Roeddem yn falch iawn o weld o leiaf tri chwsmer yn dod allan i sôn wrthym am sut y maent yn rheoli eu sbwriel. Gwnaethant rannu arfer da, gofyn cwestiynau a gweithio gyda ni i helpu i ddod o hyd i atebion – gan ddangos y math o bartneriaeth gadarnhaol yr ydym yn hoff iawn o’i gweld.

Meddai Amy, Arweinydd y Tîm Atebion o ran Tai: “Yn ateb, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Mae digwyddiadau tebyg i’r cyfle hwn i fynd am dro yn hollbwysig er mwyn ein helpu i ddeall a gwella’r cymunedau lle mae ein cwsmeriaid yn byw.”

Hoffem ddiolch o galon i bawb a neilltuodd amser i siarad â ni. Mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyhoeddwyd: 11/07/2025