Mae’n bleser mawr gennym rannu’r newyddion bod ateb wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Arfer Da 2025 TPAS Cymru am Gynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau. Gorffennodd ateb ymhlith y tri uchaf – ac mae’r diolch am hynny i bron 300 o’n cwsmeriaid am eu cyfraniad anhygoel.
Mae’r gydnabyddiaeth yn dathlu’r gwaith cydweithredol a wnaed wrth lunio gwelliannau i’n porth cwsmeriaid, sef Fy nghyfrif ateb. Mae’r porth yn grymuso ein cwsmeriaid yn fwy nag erioed yn awr ac mae’n haws nag erioed i’w ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau, o roi gwybod am yr angen am waith atgyweirio i wirio apwyntiadau a dod o hyd i gyngor am hunangymorth, ac mae hynny oherwydd bod cynifer ohonoch chi wedi helpu i’w lunio.
Bu cwsmeriaid yn cymryd rhan mewn sesiynau adborth, grwpiau ffocws ac ymweliadau cymorth un i un, gan ein helpu i roi prawf ar y gwasanaeth, ei fireinio a’i wella. Gwelsom gynnydd o dros 20% yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r porth, gyda cheisiadau am waith atgyweirio, ymholiadau cyffredinol a chyfraddau mewngofnodi yn cynyddu’n sylweddol hefyd. Gwnaeth un cwsmer hyd yn oed ddefnyddio ein canllaw hunangymorth i drwsio rheiddiadur cymydog – heb fod angen cysylltu â ni.
Roedd y categori hwn mor boblogaidd fel y bu’n rhaid ei rannu’n ddwy wobr ar wahân, felly rydym yn falch iawn o fod wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth mor gryf. Rhaid diolch yn arbennig i’r tîm craidd a fu’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith – o ateb: Ailinor Evans, Jane Nutland, Ruth Preece, Jaydie Davies, Andrew Jenkins, Tom Waters a Lyndsey Defoe, ac yn benodol ein cwsmeriaid a weithiodd mor galed; Peter, Brian a Tony – ac i bob cwsmer a gymerodd ran.
Gwnaeth eich llais wahaniaeth go iawn.