Yr wythnos hon, gwnaethom nodi dechrau’r gwaith adeiladu yn The Croft, sef ein datblygiad newydd yng nghanol Llangwm. Roedd yn braf croesawu amrywiaeth o wynebau cyfarwydd ac wynebau newydd i’r safle wrth i ni lansio’r prosiect pwysig hwn yn swyddogol.
Daeth cydweithwyr o bob rhan o Grŵp ateb a Mill Bay Homes ynghyd yng nghwmni ein partner adeiladu Morganstone i fyfyrio am y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma ac i edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod nesaf. Cawsom gwmni’r Cynghorydd Michael John a’r Cynghorydd Cymuned Victoria Owens hefyd, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r datblygiad.
Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd croesawu Dannie, Maggie, Lewis a Jessie sy’n ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Cleddau Reach, ynghyd â’u Pennaeth Mr Buckley. Mae’r ysgol bellter cerdded byr o’r safle, felly roedd yn braf cynnwys rhai o blant yr ardal a fydd yn gweld y datblygiad yn symud yn ei flaen yn ystod y misoedd nesaf. Gwisgodd y plant siacedi llachar a hetiau caled i’n helpu i nodi’r bennod gyntaf yn hanes lle newydd y bydd dwsinau o deuluoedd lleol yn ei alw’n gartref iddynt.
Pan fydd The Croft wedi’i gwblhau, bydd yn darparu 67 o gartrefi o safon gan gynnwys 22 o gartrefi rhanberchnogaeth a fydd ar gael drwy Mill Bay Homes. Bydd y cartrefi hyn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau er mwyn helpu i ddiwallu anghenion lleol – o anghenion y sawl sydd am rentu eiddo i anghenion y sawl sy’n gobeithio prynu eu cartref cyntaf.
Mae’r datblygiad hwn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddarparu mwy o gartrefi cynaliadwy, fforddiadwy ar draws Sir Benfro, gan greu atebion gwell o ran byw ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod ac i bawb a weithiodd yn ddiwyd y tu ôl i’r llenni i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn falch o fod yn buddsoddi yn nyfodol Llangwm – ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at rannu rhagor o ddiweddariadau â chi wrth i’r gwaith ar y safle fynd rhagddo.