Taith Bwrdd ateb yn dangos effaith atebion gwell o ran byw ar draws y gorllewin

Yn ddiweddar, bu aelodau o Fwrdd Grŵp ateb ar daith o amgylch nifer o’n cartrefi a’n cymunedau ledled Sir Benfro. O ystadau sydd wedi’u hen sefydlu i ddatblygiadau mwy newydd a llety byw’n annibynnol, roedd y daith yn gyfle gwerthfawr i gysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r tîm a chwsmeriaid – a gweld ein diben ar waith.

Cafodd aelodau’r Bwrdd eu harwain gan aelodau o’n Tîm Rheoli Gweithredol a chawsant gwmni Ceri, ein Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, Jayne O’Hara, Pennaeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, ac Allyn, ein Huwch-reolwr Buddsoddi mewn Eiddo. Roedd Allyn yn awyddus i ddangos rhai o’n cartrefi y gwnaed gwaith ôl-osod arnynt yn ddiweddar, sy’n helpu i leihau costau ynni cwsmeriaid ac yn cyfrannu hefyd at gyrraedd ein nodau amgylcheddol o ran sero net.

Roedd aelodau’r Bwrdd yn llawn canmoliaeth i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud, a gwnaeth brwdfrydedd Allyn ynglŷn â chynaliadwyedd ac effaith ymarferol ein rhaglen ôl-osod argraff arbennig arnynt.

Rhannodd Nisha, un o aelodau’r Bwrdd, ei myfyrdodau ynghylch yr ymweliad:

“Cenhadaeth ateb – sef creu atebion gwell o ran byw i bobl a chymunedau’r gorllewin – wnaeth fy nharo i fwyaf. Daeth y geiriau sydd ar wefan ateb yn wirioneddol fyw yn ystod yr ymweliad. Gwnaeth y rhyngweithio ag aelodau allweddol o staff ac â phreswylwyr beri i genhadaeth ateb deimlo’n real, a’i throi o fod yn ddyhead yn unig i fod yn rhywbeth diriaethol y mae’r tîm yn ei gyflawni o ddifrif. Llongyfarchiadau i’r tîm!”

Mae’r ymweliadau hyn yn galluogi aelodau’r Bwrdd i feithrin dealltwriaeth hanfodol o brofiadau go iawn ein cwsmeriaid, gwaith ein timau, a’r heriau strategol a gweithredol a’r llwyddiannau yr ydym yn ymdrin â nhw.

“Mae’r profiad hwn yn rhoi persbectif i fi ar flaenoriaethu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig, o gyflawni’n strategol i weithredu ar lefel ymarferol,” ychwanegodd Nisha. “Mae’n atgyfnerthu fy ymrwymiad i’r ffocws yr ydym yn ei sefydlu yn y Bwrdd: sef sicrhau safonau uwch o ran cyflawni a meithrin diwylliant sefydliadol lle mae pawb yn bwysig.”

Roedd cwrdd â chwsmeriaid a gweld y mannau sy’n gartref iddynt yn atgoffa aelodau’r Bwrdd, mewn ffordd bwerus, am y rheswm pam yr ydym yn gwneud yr hyn a wnawn.

“Rydych yn darparu mwy na thŷ; rydych yn darparu cartref,” meddai Nisha. “Mae’r hyn yr wyf wedi’i weld heddiw yn dangos, heb amheuaeth, bod eich gwaith yn werth chweil. Rydych yn rhoi i bobl ymdeimlad hollbwysig o fod yn saff ac yn ddiogel, ac yn mynd ati’n ddiwyd i sicrhau bod ein cartrefi yn parhau i fod yn amgylchedd cefnogol yn hytrach nag yn fannau concrid yn unig. Diolch.”

Dyma neges Nisha i’n cwsmeriaid:

“Hoffem ddiolch i chi am ymddiried yn aelodau’r tîm. Gofynnwn i chi barhau i’w cefnogi wrth iddynt ymdrechu, dan amodau heriol, i gynnig atebion gwell o ran byw. Mae eich adborth yn amhrisiadwy ac rydym yn gobeithio y bydd rhai ohonoch yn ystyried ymuno â’n pwyllgor cwsmeriaid er mwyn helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau.”

Rydym yn hynod falch o’n cartrefi, ein cymunedau, ac aelodau’r tîm sy’n dod â bywyd iddynt – ac rydym yn ddiolchgar i aelodau ein Bwrdd am roi o’u hamser i weld drostynt eu hunain yr effaith y mae ein gwaith yn ei chael.

Cyhoeddwyd: 14/07/25