Category Archives: Uncategorized @cy

Cyswllt â Chwsmeriaid: Sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol?

Dros y mis nesaf, rydym yn awyddus i glywed gennych am sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo. Cliciwch yma i gymryd rhan. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill talebau gwerth £100 ar ddiwedd y gweithgaredd hwn. Drwy gymryd […]

Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yn ymweld ag un o ddatblygiadau tai Grŵp ateb

Roedd yn bleser gennym groesawu Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James AS, i’n datblygiad tai rhent cymdeithasol yn Nhyddewi ddydd Llun. Cafodd y Gweinidog gyfle i weld y datblygiad y mae disgwyl iddo groesawu ei ddeiliaid cyntaf ym mis Awst / Medi eleni. Cyhoeddodd y Gweinidog ddull newydd o fynd i’r afael ag “argyfwng ail […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er […]

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth 10 Awst am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Cyswllt â Chwsmeriaid. Byddwn hefyd yn tynnu enw enillydd y wobr o £100 yn fyw yn ystod y sesiwn hon. Bydd ateb […]

Arwydd bach o ddiolch gan ateb

Rydym yn gwybod bod Covid-19 wedi effeithio’n fawr arnoch chi, ein cwsmeriaid, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaethau wedi parhau lle bynnag yr oedd hynny’n bosibl, a gwnaethom gyflwyno pecynnau cymorth er mwyn ceisio hybu lles ein cwsmeriaid. Mae eich amynedd a’ch dealltwriaeth drwy gydol y cyfnod anodd […]

Cystadleuaeth Arddio ateb 2021

Dyma hi! Ein cystadleuaeth arddio 2021 Dosbarthiadau 1  Yr ardd orau gan berson ifanc (dan 16 oed) 2  Yr ardd orau o safbwynt yr amgylchedd / bywyd gwyllt (a yw eich gardd yn helpu’r amgylchedd mewn rhyw fodd? E.e. ydych chi’n defnyddio casgenni dŵr / ydy’r ardd yn denu llawer o wenyn neu ieir bach […]

Cartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu ar gael yn fuan yn Nhyddewi

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd ein cartrefi newydd sbon ar y datblygiad yn Heol Glasfryn, Tyddewi ar gael cyn bo hir ar wefan CartrefiDewisedig@SirBenfro! Os nad ydych ar y Gofrestr Tai yn barod, mae gennych ychydig o amser o hyd i wneud cais. Y ffordd gyflymaf o wneud hynny yw 1. lawrlwytho’r ffurflen, […]

Bydd gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys yn ailddechrau ym mis Mehefin

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn, o fis Mehefin ymlaen, yn gallu cyflawni gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys. Gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd ein bod yn dal i roi blaenoriaeth i waith brys ac archwiliadau diogelwch ac ar yr un pryd yn ceisio clirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi […]

Cau gwasanaeth ‘Fy Nghyfrif’ ateb dros dro

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod wrthi’n brysur yn gwella ein gwasanaethau a’n systemau er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi, ein cwsmeriaid. Mae hynny’n cynnwys datblygu system gyfrifiadurol newydd sbon a fydd yn gwella lefelau ein gwasanaeth i gwsmeriaid, yn ogystal â hafan ar-lein newydd lle gallwch wirio eich cyfriflenni rhent, rhoi […]