Mae gennym 5 hamper Nadolig hyfryd i’w rhoi i gwsmeriaid ateb! Dyma eich cyfle i gymryd rhan yn rhad ac am ddim yn ein raffl.
Erbyn 16:00 ddydd Iau, 04/12/25 fan bellaf.
Bydd enwau’r 5 enillydd yn cael eu tynnu gan Wheelofnames.com, sef adnodd dewis enwau ar hap ar-lein, a bydd yr hamperi’n cael eu dosbarthu i stepen eich drws mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Rheolau cymryd rhan
- Dim ond cwsmeriaid ateb gaiff gymryd rhan yn y Raffl.
- Dim ond os byddwch yn ateb pob cwestiwn y bydd eich enw’n cael ei gynnwys yn y gystadleuaeth i ennill gwobr.
- Dim ond unwaith y caiff enw pob person cymwys ei gynnwys yn y raffl.
- Ni chaiff staff ateb na pherthnasau agos staff ateb gymryd rhan.
Cysylltwch ag:
Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni
