Category Archives: Uncategorized @cy

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn […]

Diweddariad am wasanaethau: Dydd Llun 19 Medi.

Bydd gwasanaethau Grŵp ateb ar gau ddydd Llun 19 Medi, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd diwrnod angladd y Frenhines yn ŵyl y banc. Dim ond gwasanaeth atgyweirio mewn argyfwng y byddwn yn ei ddarparu i gwsmeriaid ateb ar y diwrnod hwnnw. Cofiwch mai dim ond problemau atgyweirio sy’n peryglu bywyd neu’n […]

Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â thenantiaid ynghylch diogelwch adeiladau

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymgynghori ag ystod eang o breswylwyr (tenantiaid a lesddeiliaid) er mwyn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi ynghylch cynigion i gael Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad (llyw.cymru) Mae’r cynigion yn ceisio grymuso preswylwyr drwy gryfhau eu llais yng nghyswllt materion sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau, […]

Yw ateb yn gwrando arnoch?

MAE’R CANLYNIADAU WEDI CYRRAEDD!  Oherwydd yr hyn y gwnaethom ei ddysgu’n dilyn Arolwg STAR gaeaf 2021/22 gwelodd y Grŵp Cynllunio Arolygon, sy’n cynnwys amryw gwsmeriaid ac aelodau o staff, fod angen ymchwilio ymhellach i’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid. Felly, ym mis Ebrill a mis Mai eleni, gwnaethom ofyn rhai cwestiynau manylach a […]

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth, 13 Medi, am 10:00 a bydd yn para tua awr. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni drwy Teams, os hoffech gael help, hyd yn oed os nad oes gennych offer. Mae’r grwpiau hyn yn agored i bob aelod o staff a phob un o […]

Sioe Sir Benfro: “Gawn ni sôn ryw ychydig wrthych am ateb?”

Roedd Sioe Sir Benfro yn ei hôl eleni, ac er ei bod yn llai o faint nag o’r blaen roedd yr un hwyl a’r un naws deuluol ag arfer yn perthyn iddi! Roedd stondin ateb ym Mharth y Gymuned a Dysgu a chafodd cannoedd o ymwelwyr eu croesawu iddi yn ystod y digwyddiad deuddydd. Roedd […]

ateb yn falch o gymeradwyo polisi newydd ynghylch troseddau casineb

Mae Bwrdd ateb wedi cymeradwyo polisi newydd ynghylch troseddau casineb ar gyfer Grŵp ateb, sy’n cryfhau ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid a’r gymuned ehangach y byddwn yn gweithredu’n gyflym ac yn effeithiol i fynd i’r afael â throseddau casineb. Mae hynny’n rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn gallu mwynhau eu cartref […]

Digwyddiad Cymunedol

Dyma ddigwyddiad cymunedol sydd am ddim ac yn agored i bawb. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. 4pm tan 7pm, dydd Iau 15 Medi, Sŵn y Môr, Ty Ddewi SA62 6SY Mae ateb yn darparu’r digwyddiad hwn er mwyn rhoi cyfle i breswylwyr ddod i adnabod ei gilydd a defnyddio’r […]

Y Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid: diolch yn FAWR

Hoffai Mark Lewis, Pennaeth Cwsmeriaid, ddiolch i bawb a ddaeth i’r Digwyddiadau Mawr i Gwsmeriaid a gynhaliwyd eleni ym mis Mai a mis Mehefin. Cynhaliwyd cynadleddau yn Nhreletert, Burton, Aberdaugleddau a De Clare Court, Hwlffordd. Meddai Mark: “Fe wnes i a phob aelod o’r tîm a oedd yn bresennol fwynhau’n fawr cael cyfle i wrando […]