Rydym yn gwahodd pob un o’n cwsmeriaid i rannu eu barn a’u profiadau drwy gymryd rhan mewn arolwg pwysig am eich cartref a’ch bywyd fel tenant tai cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru am gael gwybod pa mor dda y mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn gweithio. Diben y safon hon yw sicrhau bod cartrefi cymdeithasol ar draws Cymru yn ddiogel, yn gynnes, yn gyfforddus, ac o ansawdd uchel — yn awr ac i’r dyfodol.
Pam y mae eich llais yn bwysig
Bydd eich barn yn helpu i lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Drwy gwblhau’r arolwg, byddwch yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall:
- Sut y mae cyflwr eich cartref yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
- Beth yw eich barn am unrhyw welliannau sydd wedi’u gwneud.
- Beth sy’n gweithio yn dda a ble y gallai pethau fod yn well.
Manylion yr arolwg
- 📝 Mae’r arolwg yn hollol ddienw ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol.
- ⏱️ Bydd yn cymryd 15 munud ar y mwyaf i’w gwblhau.
- 📅 Mae gennych tan 31 Hydref 2025 am 23:59 i rannu eich barn.
- 🎁 Ar y diwedd, gallwch ddewis mynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws dilynol. Os cewch eich dewis, byddwch yn cael taleb gwerth £10 fel arwydd o ddiolch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, gallwch gysylltu â Hanna Jeppsson o Alma Economics: [email protected].
👉 Cwblhewch yr arolwg yma: https://tinyurl.com/4shdjdat
Gair o gyngor: Gallwch gwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu yn Saesneg. I newid yr iaith, defnyddiwch y blwch tywyll sydd ar frig y ffurflen, lle mae’r testun “English (United Kingdom)” neu “Cymraeg (Y Deyrnas Unedig)”.
Diolch am neilltuo amser i rannu eich profiadau. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wella tai cymdeithasol i bawb.
