Yng Ngrŵp ateb, mae creu atebion gwell o ran byw yn bwysig iawn i ni — ac mae hynny’n cynnwys helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf.
Yn ddiweddar buodd ein his-gwmni Mill Bay Homes yn cynorthwyo Sophie a’i dau o blant i wneud hynny, drwy gynllun Rhanberchnogaeth-Cymru y cwmni yn The Cornfields, Sageston.
Am flynyddoedd roedd Sophie wedi bod yn breuddwydio am gael bod yn berchen ar ei chartref ei hun ond, fel llawer o bobl eraill sy’n rhentu, roedd bron yn amhosibl iddi gynilo ar gyfer blaendal llawn a thalu rhent a chostau teuluol ar yr un pryd. Newidiodd hynny pan ddaeth i wybod am ranberchnogaeth.
“Roedd bron yn amhosibl i fi gynilo ar gyfer blaendal llawn i brynu tŷ, a rhentu ar yr un pryd,” meddai Sophie. “Roedd yn ymddangos na allwn fod yn berchen ar fy nghartref fy hun, nes i fi ddod ar draws y cynllun rhanberchnogaeth. Roedd y broses yn eithaf syml, a dweud y gwir — defnyddiais fy mlaendal llai o faint i gael morgais llai o faint. Ac rwy wedi dechrau prynu fy nghartref cyntaf yn awr.”

Prynodd Sophie 25% o’i thŷ hardd â thair ystafell wely, sy’n dŷ pâr, ac mae bellach yn mwynhau’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl y bu’n gobeithio ers amser amdanynt.
“Rydym wrth ein bodd â’n cartref newydd,” meddai. “Mae wedi’i orffen mor dda, ac mae Mill Bay Homes wedi bod yn wych — mae’r cwmni bob amser wrth law os oes angen unrhyw beth arna i. Fyddwn i fyth wedi gallu gwneud hyn heb y cynllun.”
Mae rhanberchnogaeth wedi esgor ar fanteision ariannol iddi hefyd, ac mae taliadau misol Sophie bellach yn is na rhent preifat. Mae hynny’n rhoi mwy o ryddid iddi gynilo ar gyfer y dyfodol a chynllunio i brynu cyfran fwy o’i chartref maes o law.
“Mae’n ffordd wych o brynu eich cartref cyntaf yn raddol,” ychwanegodd Sophie. “Mae wir wedi newid ein bywydau.”
Yn ateb, mae straeon fel un Sophie yn ein hatgoffa o’r rheswm pam yr ydym yn gwneud yr hyn a wnawn — sef helpu pobl ar draws y gorllewin i ddod o hyd i le gwell i’w alw’n gartref.
I gael gwybod pa gynlluniau rhanberchnogaeth cyffrous sydd ar ddod i ateb, ymunwch â rhestr bostio Datblygiad The Croft Mill Bay Homes.
