Ychydig cyn y Nadolig, roeddem yn falch o allu rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl drwy roi hamperi i bum cwsmer a gwblhaodd ein holiadur diweddar i gwsmeriaid.
Y cyfle hwn i ennill gwobr oedd ein ffordd ni o ddweud diolch i bawb a rannodd eu meddyliau a’u profiadau â ni. Mae eich adborth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae wedi bod o gymorth uniongyrchol i lunio ein dogfen sy’n dwyn y teitl Adborth Cyffredinol Cwsmeriaid 2025.
Drwy wrando ar yr hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wrthym, mae ateb wedi cael darlun cliriach o beth yr ydym yn ei wneud yn dda a ble y gallwn barhau i wella. Mae’r ddealltwriaeth hon yn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf ac i barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n rhoi cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn.
Llongyfarchiadau i’r sawl a enillodd ein Hamperi Nadolig:
- Anona – Jameston
- Katie – Arberth
- Melissa – Steynton
- Pamela – Hwlffordd
- Karen – Hwlffordd
Diolch o galon i bawb a neilltuodd amser i lenwi’r holiadur. Mae eich barn yn helpu i lunio ein blaenoriaethau ac i gefnogi ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – ac rydym yn ddiolchgar eich bod wedi cymryd rhan.
