Cydweithio â PATCH i gynorthwyo teuluoedd adeg y Nadolig eleni

Yr wythnos hon, rydym yn falch o fod yn cynorthwyo PATCH – Pembrokeshire Action to Combat Hardship – drwy helpu’r elusen i ddosbarthu ei pharseli o deganau Nadolig i deuluoedd ledled Sir Benfro. 

Mae ein fan cymorth digidol, sef Dot.e, yn teithio o le i le’n ymweld â chartrefi ac yn rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl, gan helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael anrheg ar adeg o’r flwyddyn sy’n gallu bod yn anodd tu hwnt. Fel rheol, mae Dot.e yn cynorthwyo cwsmeriaid drwy ddarparu cyngor a mynediad digidol, ond mae’n braf gweld y fan yn cael ei defnyddio mewn ffordd wahanol i gynorthwyo ein cymunedau. 

Rydym yn cydweithio’n agos â PATCH drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r elusen yn darparu cymorth hanfodol i lawer o’n cwsmeriaid drwy roi parseli bwyd, help ymarferol a chysur pan fydd pobl yn wynebu’r angen mwyaf am y pethau hynny. Mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl a chefnogi achos lleol sydd mor bwysig yn golygu llawer i ni. 

Mae llawer o’n gwerthoedd ni a gwerthoedd PATCH yn debyg iawn i’w gilydd, yn enwedig ein diben cyffredin, sef creu atebion gwell o ran byw ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin. Mae hynny’n golygu bod cefnogi’r elusen a’r achos gwych hwn yn waith mwy ystyrlon fyth. 

Os gwelwch chi Dot.e yn teithio o le i le yr wythnos hon, cofiwch godi llaw ar Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol – bydd e’n helpu i ddosbarthu’r parseli. 

Diolch i elusen PATCH am ei gwaith anhygoel ac am adael i ni chwarae rhan fach yn yr ymdrech i gynorthwyo teuluoedd adeg y Nadolig eleni. 

Cyhoeddwyd: 16/12/2025