Partneriaeth yn darparu cartrefi cyntaf ateb mewn datblygiad o dai cymysg yn Saundersfoot

Bydd ateb yn croesawu ei dri chwsmer cyntaf i gartrefi fforddiadwy newydd yn Nant y Dderwen, Saundersfoot cyn y Nadolig, wrth i’r cartrefi cyntaf a gwblhawyd gael eu trosglwyddo gan Morgan Construction Wales.

Mae Nant y Dderwen yn ddatblygiad preifat â chymysgedd o ddeiliadaethau, a’r byngalos hyn yw cyfran gyntaf yr 19 o gartrefi fforddiadwy a fydd yn cael eu cyflwyno i ateb yn rhan o’r cynllun.

Mae’r trosglwyddiad cyntaf yn cynnwys:

  • 2 x fyngalo pâr ag un ystafell wely
  • 1 x byngalo sengl â dwy ystafell wely

Bwriedir i’r byngalos ddarparu cartrefi diogel, modern, effeithlon o ran ynni ar gyfer pobl y mae arnynt angen tai yn Sir Benfro.

Meddai Nick, Rheolwr Prosiectau Datblygu yn ateb:

“Mae cael ein cartrefi fforddiadwy cyntaf yn Nant y Dderwen yn garreg filltir o bwys. Mae datblygiadau fel hyn sydd â chymysgedd o ddeiliadaethau yn helpu i greu cymunedau cytbwys a chynaliadwy, ac mae’n gyffrous gweld ein cwsmeriaid cyntaf yn paratoi i symud i mewn cyn y Nadolig. Hoffem ddiolch i gwmni Morgan Construction Wales am ei bartneriaeth barhaus ac am ddarparu cartrefi o safon. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu dyrannu drwy ddefnyddio polisi ateb ar gyfer gosod tai i bobl leol, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.”

Dyma ddechrau’r broses o ddarparu tai fforddiadwy ar y safle, a bydd cartrefi eraill yn dilyn wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen.

Cyhoeddwyd: 19/12/2025