Diweddariad y Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Mehefin 2025

Yr wythnos diwethaf daeth y Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ynghyd i fyfyrio am y cynnydd yr ydym wedi’i wneud ers i ni lunio ein hymrwymiad, ac i fyfyrio am sut y gallwn adeiladu ar y momentwm hwnnw.

Mae’r grŵp gweithredu hwn yn dod ag aelodau brwdfrydig o’r tîm ynghyd o bob rhan o Grŵp ateb, ac yn cael cymorth gan ein cwsmeriaid, ac mae pob un ohonynt yn awyddus i wella’r profiad a gaiff ein cwsmeriaid a’n pobl.

Y siwrnai mor belled a’r prif gyflawniadau

Mae camau cadarnhaol wedi’u cymryd ar draws meysydd sy’n cynnwys recriwtio, gwasanaethau i gwsmeriaid, llywodraethiant a chaffael er mwyn gwella amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma rai o’r prif uchafbwyntiau:

  • Mae sgyrsiau gonest, agored a dysgu ar y cyd yn ganolog i’r grŵp gweithredu.
  • Mae Rheol Rooney a’r Ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd wedi’u mabwysiadu er mwyn hybu gwaith recriwtio tecach a mwy cynhwysol, sy’n arwain at fwy o amrywiaeth yn y gweithlu.
  • Mae hygyrchedd wedi gwella ar draws digwyddiadau, lleoliadau a gwaith cyfathrebu.
  • Mae gwelliannau o ran y Cynllun Iaith Gymraeg ar y gweill er mwyn hybu gwasanaethau dwyieithog.
  • Mae data gwell am gwsmeriaid yn cael ei gasglu’n fewnol ac yn allanol er mwyn teilwra gwasanaethau a gwella cynhwysiant.
  • Ceir ffocws ar gynhwysiant digidol yn rhan o’r broses o wella gwasanaethau.
  • Clywir lleisiau amrywiol yn y gynhadledd i gwsmeriaid, sy’n gwella ymgysylltu a chynrychiolaeth.
  • Mae Pwyllgor Cwsmeriaid newydd wedi’i lansio fel bod profiadau go iawn wrth wraidd unrhyw benderfyniadau.
  • Mae arferion caffael yn gynhwysol, ac maent yn ymgorffori disgwyliadau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth dendro.
  • Caiff gwario’n lleol ac yn foesegol ei annog er mwyn cefnogi cyflenwyr a gaiff eu harwain gan werthoedd a budd cymunedol.

O allgáu i gynhwysiant – cynllunio’r ffordd ymlaen

  • Ymgorffori’r defnydd o Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn sbarduno newid ystyrlon ar draws y Grŵp.
  • Creu cyfle i ddysgu o brofiadau go iawn drwy sgyrsiau agored, siaradwyr gwadd ac adborth gan gwsmeriaid.
  • Blaenoriaethu cynhwysiant digidol, gan fynd i’r afael â bylchau o ran band eang a mynediad yn ein cymunedau.
  • Herio rhagdybiaethau a newid agweddau er mwyn meithrin empathi a dealltwriaeth ar draws timau a chymunedau.
  • Canolbwyntio ar ddiogelwch a lles a pheidio â goddef unrhyw gamdriniaeth, gyda systemau mwy cadarn ar gyfer adrodd a chynorthwyo.
  • Canolbwyntio ar gynnydd yn hytrach na pherffeithrwydd; mae’n ymwneud â gofyn cwestiynau gwell, cymryd camau bach a sicrhau effaith.

Roedd sylw a gafwyd gan aelod newydd yn drawiadol iawn.

“Roeddwn yn meddwl bod y grŵp yn fodd i dicio bocs, ond mae’n amlwg nad dyna yw ei ddiben. Mae’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ceisio gwneud gwahaniaeth. Rwy’n falch fy mod wedi dod.”

Wrth i ni barhau â’n sgwrs byddwn yn dal i ddysgu, gwella a gwneud popeth posibl i greu profiad mwy cynhwysol i bawb.

Ydych chi am fod yn rhan o’r sgwrs? Mae’r grŵp yn cynnwys cwsmeriaid ateb ac aelodau o’r tîm, felly dewch i ymuno â ni yn ein cyfarfod nesaf ddydd Mercher 1 Hydref 2025. Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu.

Cyhoeddwyd 26/06/2025