Category Archives: Uncategorized @cy

Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn …

Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn aelod o TPAS Cymru (y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) yn awtomatig a’ch bod yn gymwys i fynychu llawer o ddigwyddiadau TPAS! Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau COVID. Maent yn gyfle gwych i gwsmeriaid archwilio, rhannu a thrafod pynciau […]

Grŵp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mercher 14 Ebrill am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Disgwyliadau o ran cymorth ymarferol, a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Profiad Unigolion, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Mai […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 25 Chwefror am 10:00 a bydd yn para tua awr a hanner. Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu […]

Diffibriliwr awtomatig newydd wedi’i osod ym Mhenfro

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, ar y cyd â’r elusen Calonnau Cymru, wedi gosod diffibriliwr awtomatig newydd yn ein canolfan byw â chymorth ym Mhenfro. Bydd y diffibriliwr ar gael i’r gymuned leol yn ogystal â’r cwsmeriaid sy’n byw yn ein cartrefi. Meddai Pete Cleary, ein Cydlynydd Cyfleusterau: “Mae gosod diffibrilwyr ym mhob […]

Sut brofiad ydyw i chi: Disgwyliadau o ran cymorth ymarferol

Drwy gydol mis Chwefror, byddwn yn gofyn am eich barn ynghylch pa fath o help ymarferol y mae ei angen arnoch er mwyn gallu byw’n fwy annibynnol. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo. Darllenwch ein taflen Lansio Thema i gael rhagor o fanylion Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth […]

Cost Rhent: A yw’n cynnig gwerth am arian?

Bob blwyddyn, mae angen i ni gael gwybod gennych a ydych yn credu bod y rhent yr ydym yn ei godi arnoch yn cynnig gwerth am arian … A yw eich rhent yn cynnig gwerth am arian? Cyhoeddwyd: 07/01/2021

Gwasanaeth Larymau Cymunedol ateb

Ydych chi’n byw yn un o gartrefi ateb? Ydych chi’n byw ar eich pen eich hun? Ydych chi’n cael trafferth symud neu a oes gennych gyflwr meddygol neu nam a allai olygu eich bod yn agored i niwed neu bod perygl gwirioneddol y gallech gwympo? Os oedd eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod […]

Neges diwedd blwyddyn 2020 gan dîm ateb

Wrth i ni nesáu at wyliau’r Nadolig a diwedd 2020, mae’n anochel y byddwn yn myfyrio ynghylch sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar ein ffordd o fyw. Ers mis Mawrth mae ein cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid i gyd wedi gorfod addasu i fywyd yng nghysgod Covid-19, a oedd yn golygu llawer o gyfaddawdu […]

Cartrefi newydd yn Aberllydan, ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig.

  Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod dau o’n cartrefi yn ein datblygiad newydd yn Sandyke Road, Aberllydan ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig. Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o gymuned Aberllydan y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu […]