Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle i gydnabod profiadau pobl sy’n chwilio am ddiogelwch ac yn gyfle i annog mwy o ddealltwriaeth yn ein cymunedau.
Gall sgyrsiau am dai a mewnfudo fod yn gymhleth weithiau, ac nid yw bob amser yn hawdd gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid eleni, hoffem annog pobl i ddysgu mwy am sut y caiff tai eu dyrannu yng Nghymru a dysgu mwy am yr heriau sy’n wynebu’r sector tai.
Sut y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu?
Caiff tai cymdeithasol eu dyrannu ar sail cymhwystra a’r angen am dŷ.
Rhaid bod gan bobl hawl gyfreithiol i fyw yn y DU, a rhaid eu bod yn bodloni gofynion lleol ar gyfer dyrannu tai. Gall y gofynion hynny gynnwys bod â chysylltiad lleol, drwy fod yn byw neu’n gweithio yn yr ardal neu drwy fod â theulu yn yr ardal.
Nid yw ffoaduriaid yn cael blaenoriaeth yn awtomatig dros bobl leol. Caiff pawb eu hasesu gan ddefnyddio’r un system ar gyfer dyrannu tai, a rhoddir blaenoriaeth i’r sawl sydd fwyaf mewn angen, megis pobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig, teuluoedd sydd â phlant, neu bobl sydd ag anghenion difrifol o ran iechyd.
Deall cymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Caiff ceiswyr lloches a ffoaduriaid eu trafod yn aml gyda’i gilydd, ond mae ganddynt hawliau gwahanol a threfniadau gwahanol o ran cymorth.
Yn gyffredinol, caiff ceiswyr lloches lety a gomisiynir gan y Swyddfa Gartref tra bydd eu cais yn cael ei brosesu. Byddant yn cael cymorth ariannol cyfyngedig i dalu am gostau byw hanfodol, ac ni fydd ganddynt fynediad i dai cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os bydd cais am loches yn llwyddiannus ac os caiff statws ffoadur ei roi, bydd unigolion wedyn yn gallu cael mynediad i wasanaethau a chymorth yn yr un modd â phobl eraill sy’n byw’n gyfreithlon yn y DU. Fodd bynnag, bydd llawer ohonynt yn wynebu heriau sylweddol wrth geisio dod o hyd i lety addas mewn cyfnod cymharol fyr.
Yr her o ran tai yng Nghymru
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru yw prinder cartrefi fforddiadwy.
Mae miloedd o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae llawer o aelwydydd eraill yn byw mewn llety dros dro. Mae’r galw am dai yn parhau i fod yn fwy na nifer y cartrefi sydd ar gael.
Mae cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, ond mae angen mwy o gartrefi i ateb y galw cynyddol.
Pam y mae’n bwysig deall
Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle i ddysgu mwy am brofiadau pobl eraill ac archwilio’r ffeithiau y tu ôl i rai o’r problemau sy’n effeithio ar ein cymunedau.
Drwy neilltuo amser i ddeall sut y mae’r sector tai’n gweithio yng Nghymru, gallwn helpu i greu sgyrsiau deallus a chymunedau cryfach ar sail tegwch, parch a dealltwriaeth.
I ddysgu mwy am dai a mewnfudo yng Nghymru, ewch i ddarllen adnoddau ac arweiniad Tai Pawb.




