Dweud eich dweud
Mae ateb yn cynnal Fforwm Cwsmeriaid yn eich ardal. Nod y sesiwn yw trafod materion sydd o’r pwys mwyaf i gwsmeriaid ac sy’n effeithio ar lawer ohonynt, er enghraifft pethau sy’n digwydd yn eich stryd, eich bloc o fflatiau neu ar draws ateb yn ogystal â rhoi newyddion ateb i chi. (Nid yw’n sefyllfa lle gallwn ymdrin â phroblemau unigol.) Mewn awyrgylch hamddenol bydd staff allweddol ateb, gan gynnwys eich Cydlynydd Tai, ar gael i drafod materion â chi a helpu i ddod o hyd i atebion.
Mae’r sesiwn yn agored i holl gwsmeriaid ateb, yn enwedig y rhai sy’n byw o fewn 10 milltir i Gilgeti.
Manylion y digwyddiad:
Canolfan Cymunedol Begeli, Cilgeti SA68 0YA
Dydd Mawrth, 30 Mehefin
6yh-8yh
Diben: Fel y gallwn wella ein gwasanaethau i chi.
Lluniaeth: Bisgedi, cacennau, ffrwythau a diodydd poeth ac oer.
Popeth am ddim.
Mae’r lleoliad hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Mae ateb yn cynnig dewisiadau o ran bwyd, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae ateb yn cynnig help i ofalwyr er mwyn i chi allu manteisio ar y cyfleoedd hyn.
Mae ateb yn cynnig help gyda theithio fel y gallwch fynychu.
Mae croeso i chi alw heibio i’r sesiwn i leisio eich barn.
Cysylltwch â Cydlynydd Ymgysylltu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn: 01437 774766 / 07500 446611 [email protected]
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni
